Mater - cyfarfodydd
DISPENSATION FROM REQUIREMENT TO DISPLAY PRIVATE HIRE VEHICLE LICENCE PLATES
Cyfarfod: 24/09/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)
5 GOLLYNGIAD O OFYNIAD I ARDDANGOS PLATIAU RHIF CERBYD HURIO PREIFAT
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer gollyngiad o’r gofyniad
i arddangos platiau rhif ar Gerbyd Hurio Preifat.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (5/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (5/3)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD:-
(a) bod
y cais i ollwng y gofyniad i arddangos platiau trwydded cerbydau hurio preifat
a sticeri drws yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel y'u nodwyd yn
Atodiad B i'r adroddiad, a
(b) bod
swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddiwygio rhaglen gwaith y pwyllgor i gynnwys
polisi drafft ynghylch Eithrio Platiau Trwydded Cerbydau Hurio Preifat i gael
ei drefnu mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cofnodion:
[Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y
rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn â –
(i)
chais
am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau trwydded ar Gerbyd Hurio Preifat;
(ii)
pwerau'r
Cyngor i roi gollyngiad i berchennog rhag arddangos y plât trwydded gan gymryd
natur uwchraddol y gwaith i ystyriaeth ynghyd ag ansawdd y cerbyd dan sylw a
lle y byddai'r cerbyd yn cael ei weithredu;
(iii)
bod
yr ymgeisydd wedi darparu manylion llawn am y cerbyd a natur y busnes (Atodiad
A), a
(iv)
ffactorau
dylanwadol eraill y mae angen eu hystyried ac amodau sy’n cael eu hawgrymu
(Atodiad B) pe bai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r cais am ollyngiad.
Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb
o'r adroddiad a oedd hefyd yn argymell cynhyrchu polisi ynglŷn ag eithrio
cerbydau hurio preifat rhag arddangos trwydded cerbyd er mwyn galluogi i
geisiadau gael eu hystyried mewn modd cyson yn y dyfodol.
Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod ac
ymhelaethodd ar weithrediad a natur ei fusnes a'r rhesymeg sydd wrth wraidd ei
gais am ollyngiad. Cadarnhaodd ei fod
wedi darllen yr amodau y bwriedir eu hychwanegu at y gollyngiad os y caiff ei
roi a oedd yn cynnwys arwyddo ymrwymiad a nodai ei fod yn llawn ddeall ac yn
derbyn yr amodau hynny. Wrth benderfynu
ar y cais am ollyngiad -
PENDERFYNWYD
(a) cymeradwyo’r cais am ollyngiad o’r
gofyniad i arddangos plât trwydded cerbyd hurio preifat a sticeri drws yn
amodol ar yr amodau fel y'u nodwyd yn Atodiad B, a
(b) awdurdodi swyddogion i ddiwygio rhaglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor er mwyn amserlennu trafodaeth ar bolisi drafft
ynghylch Eithrio Cerbydau Hurio Preifat rhag Arddangos Platiau Trwydded yn un o
gyfarfodydd y dyfodol.
Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu
–
O fod wedi ystyried yr adroddiad a’r hyn yr oedd yr
Ymgeisydd wedi ei gyflwyno roedd yr aelodau'n fodlon bod natur y gwaith ac
ansawdd y cerbyd yr oedd a wnelo’r cais ag o yn bodloni'r meini prawf ar gyfer
eithrio yn yr achos hwn. Cafodd amodau
eu gosod er mwyn cynorthwyo wrth reoleiddio a gorfodi.