Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPROVAL OF TENDER FOR WEST RHYL GREEN SPACE CONSTRUCTION

Cyfarfod: 29/07/2014 - Cabinet (Eitem 11)

11 CYMERADWYO TENDR AR GYFER ADEILADU MAN GWYRDD GORLLEWIN Y RHYL

Ystyried  adroddiad  cyfrinachol  gan  y  Cynghorydd  Hugh  Evans,  Arweinydd  ac  Aelod  Arweiniol  Datblygu  Economaidd  (copi’n  amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth  y  Cabinet  i  ddyfarnu  contract  er  mwyn  adeiladu  Datblygiad  Man  Gwyrdd  Gorllewin  y  Rhyl. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol mewn ymgynghoriad gyda'r Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd i graffu ar y fanyleb er mwyn lleihau cost tendr, ac

 

 (b)      yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn cadarnhau yn ysgrifenedig y bydd yn darparu 100% o bris y contract, bod yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd yn cael ei awdurdodi i ddyfarnu'r contract i'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract ar gyfer y gwaith o adeiladu Datblygiad Man Gwyrdd Gorllewin y Rhyl.

 

Cafodd y Cabinet wybod am fanylion y contract ynghyd â’r cyllid grant sydd ar gael i gyflawni'r prosiect.  Cafodd manylion y broses dendro eu darparu a nodwyd bod y tendrau a gafwyd yn fwy na’r amcangyfrif gwreiddiol ond eu bod yn dal i fod o fewn y gyllideb a ariennir yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.  Argymhellwyd y dylid dyfarnu’r contract yn amodol ar graffu ar y fanyleb er mwyn lleihau costau'r tendr i fod yn nes at yr amcangyfrif gwreiddiol.

 

Nododd yr aelodau'r refeniw a ddyrannwyd i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw am bum mlynedd yn dilyn y gwaith adeiladu.  Fe’i gwnaed yn glir na fyddai'r Cyngor yn darparu gwaith cynnal a chadw ar ôl y bum mlynedd gyntaf ac y byddai camau’n cael eu cymryd gan y Bwrdd Prosiect i sicrhau bod yr ardal yn cael ei chynnal a'i chadw'n briodol wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol mewn ymgynghoriad â’r Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd i graffu ar y fanyleb er mwyn lleihau costau’r tendr, ac

 

(b)       yn amodol ar gael cadarnhad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru y byddant yn darparu 100% o bris y contract, bod yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd yn cael ei awdurdodi i ddyfarnu'r contract i'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm.