Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

WEST RHYL COASTAL DEFENCE PHASE 3 - CONTRACT AWARD

Cyfarfod: 29/07/2014 - Cabinet (Eitem 10)

10 CAM 3 AMDDIFFYN YR ARFORDIR GORLLEWIN Y RHYL - DYFARNU CONTRACT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i benodi’r contractwr a ffafriwyd ar gyfer gwaith adeiladu Cynllun Amddiffyn yr Arfordir yng Ngorllewin y Rhyl (Cam 3).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn awdurdodi -

 

 (a)      Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol i ddilyn proses negodi contract a gynhelir yn unol â Rheol Gweithdrefn Contract 24;

 

 (b)      Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus i lobïo Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer y cynllun i dalu am y diffyg yn y cyllid, ac

 

 (c)       Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151, i ddyfarnu'r contract i'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd yn amodol ar dderbyn cadarnhad ysgrifenedig o'r cyllid ychwanegol digonol gan Lywodraeth Cymru i dalu cost wedi’i ail-drafod y cynllun i foddhad Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol ynghylch penodi contractwr ar gyfer gwaith adeiladu Cynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl (Cam 3).

 

Cafodd y Cabinet fanylion y dewisiadau ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd ynghyd ag amcan o werth y contract a’r cymorth grant sydd ar gael.  Darparwyd canlyniad y broses dendro ac roedd yr aelodau’n siomedig bod y tendrau a gafwyd yn llawer uwch na'r swm a amcangyfrifwyd, ac felly nid oedd yn bosibl dyfarnu'r contract ar hyn o bryd.  Cadarnhaodd y Cabinet eu hymrwymiad i'r cynllun gan ystyried y dewisiadau posibl wrth ystyried y ffordd ymlaen, a chan gadw mewn cof yr amserlen dan sylw ac argaeledd yr arian grant.  Gofynnodd y Prif Weithredwr am ddadansoddiad manwl o'r rhesymau y tu ôl i'r cynnydd yn y gost, er mwyn cryfhau unrhyw achos am gymorth ariannol ychwanegol i wneud yn iawn am y diffyg cyllid.  Yn dilyn trafodaeth fanwl -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn awdurdodi -

 

(a)       Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol i ddilyn proses o drafod contractau yn unol â Rheol 24 y Weithdrefn Gontractau;

 

(b)       Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus i lobïo Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol ychwanegol gogyfer â'r cynllun i wneud yn iawn am y diffyg cyllid;

 

(c)        Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151, i ddyfarnu'r contract i'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd, yn amodol ar dderbyn cadarnhad ysgrifenedig o gyllid ychwanegol digonol gan Lywodraeth Cymru i wneud yn iawn am gostau diwygiedig y cynllun fel y cawsant eu hail-drafodwyd, nes bodloni’r Swyddog Adran 151.