Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

RHYL NEW SCHOOL - CONTRACT AWARDS

Cyfarfod: 29/07/2014 - Cabinet (Eitem 9)

9 YSGOL NEWYDD Y RHYL - DYFARNU CONTRACTAU

Ystyried  adroddiad  cyfrinachol  gan  y  Cynghorydd  Eryl  Williams,  Aelod  Arweiniol  Addysg  (copi’n  amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth  y  cabinet  i  ddyfarnu  contractau’n  ymwneud  ag  adeiladu  Ysgol  Newydd  y  Rhyl. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu contractau sy'n gysylltiedig ag Ysgol Newydd y Rhyl i uchafswm gwerth fel y manylir yn yr adroddiad yn amodol ar gadarnhad o gyllid gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'u cyfran o'r cyllid ar gyfer y prosiect.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contractau mewn perthynas ag adeiladu, a chwblhau maes o law, Ysgol Newydd y Rhyl, ynghyd ag amserlen ar gyfer y prosiect.

 

Dywedodd y swyddogion bod y Contractwr, Willmott Dixon wedi cyflwyno cynigion manwl ac na fyddai'r contract adeiladu yn cael ei ddyfarnu hyd nes y creffir ar y cynigion hynny a hyd nes cael cadarnhad ynglŷn â chyllid Llywodraeth Cymru.  Cafwyd sicrwydd hefyd bod buddion cymunedol wedi eu cynnwys fel rhan o fanyleb y tendr er budd y farchnad lafur leol a busnesau lleol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu contractau sy'n gysylltiedig ag Ysgol Newydd y Rhyl hyd at uchafswm gwerth fel y manylir yn ei gylch yn yr adroddiad, yn amodol ar gael cadarnhad o gyllid gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'u cyfran hwy o'r cyllid ar gyfer y prosiect.