Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 051260
Cyfarfod: 11/06/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 13)
13 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 051260
Ystyried
adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 051260.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (13/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (13/3)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 051260 yn cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y pwyllgor.
Cofnodion:
[Datganodd y Cynghorydd Cefyn Williams gysylltiad
personol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon. Cymerodd y Cynghorydd Barry Mellor
(Is-Gadeirydd) y Gadair.]
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes) ar –
(i)
cais a
dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 051260 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat;
(ii)
Nid
oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r wybodaeth a
ddatgelwyd yn dilyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;
(iii)
Roedd
crynodeb o'r euogfarnau a ddatgelwyd wedi eu darparu a oedd yn ymwneud â nifer
o droseddau sy'n rhychwantu cyfnod 1965 i 1995 gan gynnwys digwyddiadau sy'n
ymwneud â dwyn, troseddau traffig, meddwdod a throseddau cysylltiedig eraill ac
anonestrwydd;
(iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a
(v)
gwahoddwyd
yr Ymgeisydd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb
cwestiynau aelodau ar hynny.
Dywedwyd wrth yr aelodau nad oedd yr Ymgeisydd yn
bresennol ond roedd wedi cyflwyno llythyr (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) i
gefnogi ei gais. Nid oedd y llythyr yn egluro
absenoldeb yr Ymgeisydd. Yn dilyn ystyried y cais, cytunodd yr
aelodau ohirio’r cais tan gyfarfod nesaf y pwyllgor i roi cyfle pellach i'r
Ymgeisydd i fod yn bresennol.
PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 051260 yn
cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y pwyllgor.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 a.m.