Mater - cyfarfodydd
PROPOSED REVISED RELEVANCE OF CONVICTION POLICY FOR HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE OPERATORS AND DRIVERS
Cyfarfod: 11/06/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 11)
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno Polisi Perthnasedd Collfarnau diwygiedig ar gyfer gyrwyr a
gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i'w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- RELEVANCE OF CONVICTIONS POLICY - APP A, Eitem 11 PDF 66 KB
- RELEVANCE OF CONVICTIONS POLICY - APP B, Eitem 11 PDF 105 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Polisi Collfarnau
Cerbydau Hacni a Hurio Preifat diwygiedig fel y nodir yn Atodiad B i'r
adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
cyflwyno Polisi Perthnasedd diwygiedig o Bolisi Collfarnau ar gyfer gyrwyr a
gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i'w gymeradwyo.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn adolygu'r
canllawiau mewn perthynas â chollfarnau perthnasol ac wedi penderfynu trwy’r
Panel Technegol Trwyddedu Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru (DDPW) i
argymell canllawiau wedi'u diweddaru yn berthnasol i sefyllfaoedd cyfredol sy'n
codi o ran trwyddedu tacsis. Argymhellodd y DPPW i’r polisi gael ei fabwysiadu gan yr
holl awdurdodau lleol Cymru i sicrhau dull cyson a thryloyw ledled Cymru wrth
benderfynu a yw ymgeisydd neu ddeiliad trwydded presennol yn berson addas a
phriodol i ddal trwydded cerbyd hacni neu drwydded gyrrwr/ gweithredwr hurio
preifat.
Er y
byddai swyddogion ac aelodau yn ystyried y canllawiau byddai pob achos yn cael
ei ystyried yn ôl ei deilyngdod unigol a pan fo'r amgylchiadau'n mynnu gallai’r
swyddog / pwyllgor wyro oddi wrth y canllawiau. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r polisi arfaethedig
yn dilyn ymgynghori.
Roedd yr aelodau’n fodlon derbyn y polisi diwygiedig a -
PENDERFYNWYD
bod y Polisi Collfarnau
Cerbydau Hacni a Hurio Preifat diwygiedig fel y nodir yn Atodiad B i'r
adroddiad yn cael ei gymeradwyo.