Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

PROPOSED AMENDED PENALTY POINT POLICY AND PROCEDURE

Cyfarfod: 11/06/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 9)

9 POLISI A GWEITHDREFN DDIWYGIEDIG PWYNTIAU COSB ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 76 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn cyflwyno Polisi a gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig i’w cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod cyfarfod arbennig yn cael ei alw i ystyried Gweithdrefn a Chynllun Pwyntiau Cosb yn fanwl gan gymryd i ystyriaeth y fasnach tacsis a hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Polisi Pwyntiau Cosb diwygiedig a gweithdrefn i’w cymeradwyo.  [Nid oedd y cynllun pwyntiau cosb presennol wedi cael ei roi ar waith yn dilyn ei gymeradwyo oherwydd pryderon ar y pryd ynghylch dilysrwydd cynlluniau o'r fath.]

 

Soniodd swyddogion am faterion cyfreithiol o weithredu system pwyntiau cosb a'r angen i sicrhau nad oedd y cynllun yn cael gwared ar ddisgresiwn yr awdurdod ac yn caniatáu ar gyfer proses apelio briodol.  Roedd y polisi yn anelu at wella safonau yn y sector cerbydau hacni a hurio preifat a gweithio ar y cyd ag opsiynau gorfodaeth eraill i nodi’r unigolion hynny a oedd yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn modd, pe cânt eu hystyried yn eu cyfanrwydd, a oedd yn dangos oeddent yn addas a phriodol i ddal trwydded.  Cynhaliwyd ymgynghoriad ac roedd barn yr ymatebwyr wedi cael eu crynhoi yn yr adroddiad a’i ystyried wrth lunio'r ddogfen derfynol.  Roedd yr ymatebwyr hynny hefyd wedi cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod.  Roedd y Cynghorydd Stuart Davies yn credu dylid ymgynghori â’r pwyllgor ar faterion polisi a chynigion cyn y sector trwyddedig a phartïon eraill sydd â diddordeb.

 

Croesawodd yr Aelodau gyflwyno’r cynllun pwyntiau cosb fel modd o wella ymddygiad a chodi safonau, ond roeddent yn awyddus i sicrhau bod y cynllun yn deg, yn enwedig o ran dyrannu pwyntiau cosb, a gofynnwyd am sicrwydd yn hynny o beth.  Cadarnhaodd y swyddogion fod y cynllun yn debyg i'r rhai a weithredir gan awdurdodau lleol eraill a gofynnwyd am gyngor gan James Button, Cyfreithiwr ar resymoldeb graddfa’r pwyntiau.  Byddai pwyntiau yn cael eu dyrannu yn briodol yn dibynnu ar amgylchiadau'r drosedd.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, anerchodd Mr Les Peake, Coastline Taxis y pwyllgor yn mynegi cefnogaeth ar gyfer y cynllun ar yr amod ei fod yn cael ei weithredu a’i blismona’n briodol.  Ychwanegodd er mwyn cynnal safonau cerbydau byddai angen gwahardd codi ffi isel iawn am deithiau.  Dywedodd Mr Ian Armitage a Mr Gareth Jones eu bod yn cynrychioli barn nifer o yrwyr trwyddedig yn y Rhyl.  Tynnwyd sylw at y cynnydd yn y nifer o achosion o dorcyfraith a oedd yn ddarostyngedig i gosb o dan y cynllun newydd (o 28 i 58) ac er bod y rhan fwyaf o'r cynigion yn cael eu cefnogi, roedd nifer fechan yn peri pryder.  O bryder arbennig oedd y diffyg darpariaeth ar gyfer egwyliau toiled gyda gyrwyr tacsi yn cael eu cosbi am adael eu cerbyd heb oruchwyliaeth ar ranc tacsis.  Eglurodd swyddogion ei fod yn drosedd i adael cerbyd heb oruchwyliaeth ar ranc a bod y cynnig yn ceisio mynd i'r afael â gyrwyr a oedd yn cymryd mantais o ranciau yn y gorffennol ac wedi gadael eu cerbydau i fynd i siopa.  Byddai ymagwedd synnwyr cyffredin yn cael ei chymryd i ddyrannu pwyntiau yn yr holl amgylchiadau.

 

Yn wyneb y pryderon a godwyd gan y sector tacsis a'r ymateb gwael i’r ymgynghoriad, roedd yr aelodau’n teimlo bod y cynigion angen ystyriaeth fwy manwl pellach cyn i’r polisi terfynol gael ei gymeradwyo.  O ganlyniad, -

 

PENDERFYNWYD bod cyfarfod arbennig yn cael ei alw i ystyried Gweithdrefn a Chynllun Pwyntiau Cosb yn fanwl gan gymryd i ystyriaeth y fasnach tacsis a hurio preifat.

 

Ar yr amser hwn (11.00 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.