Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DRAFT SUPPLEMENTARY PLANNING GUIDANCE - HOT-FOOD TAKEAWAYS

Cyfarfod: 11/06/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)

7 CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT – SIOPAU TECAWÊ POETH pdf eicon PDF 75 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am farn yr aelodau ar y ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar siopau prydau parod poeth cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau'r aelodau, y dylid derbyn a nodi’r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar siopau cludfwyd prydau poeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Polisi Cynllunio a Swyddog Cynllunio adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am farn yr aelodau ar y ddogfen ddrafft Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar siopau tecawê poeth cyn ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ac ymgynghoriad cyhoedd.  Roedd Aelodau o'r Grŵp Llywio Aelodau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wedi gofyn i’r canllawiau gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trwyddedu o ystyried y cysylltiadau clir â thrwyddedu.

 

Hysbyswyd yr Aelodau o'r angen i ddiweddaru’r CCA presennol yn dilyn mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ym mis Mehefin 2013. Yn dilyn adolygiad o'r canllawiau penodol hyn mae rhai mân newidiadau wedi eu cynnig ond y prif newid oedd y cynnig i gyflwyno cyfyngiad ar siopau tecawê poeth newydd o fewn 400m i unrhyw ffin ysgol.  Ymhelaethodd y swyddogion ar ystyriaethau eraill o fewn y ddogfen a oedd o ddiddordeb arbennig i drwyddedu a phwysleisiwyd y byddai'r canllawiau ond yn berthnasol i geisiadau cynllunio newydd ac ni fyddai'n effeithio ar eiddo tecawê poeth presennol.

 

Wrth ystyried y canllawiau drafft roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·        Roedd y pwyllgor yn cefnogi'r cynnig i gyflwyno parth gwahardd ger ysgolion ac roedd yn awyddus i’r cyfyngiad hwn gael ei ymestyn i fusnesau bwyd poeth symudol gyda mwy o reolaeth dros fasnachwyr symudol yn gyffredinol a gorfodaeth rhagweithiol.  Eglurodd swyddogion y gyfraith ynglŷn â llywodraethu masnachwyr symudol gan gynghori na ellid eu rheoleiddio drwy'r fecanwaith gynllunio ond trwy Caniatâd Masnachu ar y Stryd a Thrwyddedau Pedleriaid.  Cytunwyd y dylid cyfeirio at fasnachu ar y stryd o fewn y canllawiau gan egluro'r meysydd hynny o gyfrifoldeb a rheolaeth.  Fodd bynnag, roedd pryderon yn parhau na ellid ymarfer rheolaethau digonol dros fasnachwyr penodol a oedd yn syrthio y tu allan i awdurdodaeth ddeddfwriaethol y Cyngor

·        adroddodd yr aelodau ar broblemau traffig a pharcio a geir ger siopau tecawê poeth sefydledig a diffyg gorfodaeth a darparodd y swyddogion sicrwydd y byddai ymgynghori gyda Phriffyrdd yn ffurfio rhan o'r broses gynllunio ar gyfer ceisiadau newydd

·        cyfeiriwyd at baragraff 6.7 ynghylch sbwriel a theimlai'r aelodau y dylid cryfhau’r mesurau hynny a’u gwneud yn orfodol os yn bosibl.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y byddai sylwadau'r aelodau yn cael eu rhoi gerbron y Pwyllgor Cynllunio ym mis Gorffennaf wrth ystyried y ddogfen ddrafft.  Ychwanegodd y byddai aelodau yn cael cyfle pellach i wneud sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod, y dylid derbyn a nodi’r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar siopau tecawê poeth.