Mater - cyfarfodydd
STREET NAMING AND NUMBERING POLICY
Cyfarfod: 27/05/2014 - Cabinet (Eitem 5)
5 POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO PDF 87 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Hamdden, Ieuenctid,
Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno’r Polisi Enwi
Strydoedd a’r Polisi Rhifo newydd i'w gymeradwyo ynghyd â newid y pŵer
dirprwyedig ar gyfer y swyddogaeth hon.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cytuno ar y
Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo newydd arfaethedig fel y'i nodwyd yn Atodiad 1
i'r adroddiad, yn amodol ar y diwygiadau canlynol -
-
Bod paragraff 4.3, Adran C yn cael ei ail-eirio er mwyn
egluro na allai'r Cyngor wrthod cais i ychwanegu enw i eiddo â dim ond rhif
arno ar hyn o bryd ond y byddai'n cyhoeddi canllawiau ynghylch priodoldeb enw’r
eiddo er mwyn osgoi gwrthdaro ac yn achosi tramgwydd
-
dileu paragraff 1.9, Adran B yn ymwneud â'r defnydd o
atalnodi
-
cynnwys "Court" a "View" ar y rhestr
o ôl-ddodiaid derbyniol
-
bod paragraff 1.6, Adran B yn cael ei ddiwygio gyda'r
geiriau ychwanegol "oni bai bod achos clir yn cael ei wneud ynghylch
cysylltiad hanesyddol neu ddiwylliannol yr unigolyn i'r tir neu’r
gymdogaeth", a
(b) nodi bod y
swyddogaeth enwi strydoedd a rhifo yn cael ei reoli gan y Pennaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno'r Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo newydd
arfaethedig i'w gymeradwyo.
Hysbyswyd yr Aelodau bod y polisi presennol 1997
wedi cael ei ddiweddaru a'i wella er mwyn darparu mwy o eglurder a set fwy
cadarn o weithdrefnau ar gyfer ymdrin ag enwi strydoedd a rhifo. O ystyried y pryderon a godwyd yn y Fforwm
Dwyieithrwydd, roedd y polisi yn cynnwys darpariaeth i ail-enwi strydoedd gydag
enw un iaith i un dwyieithog, ac y byddai'r holl enwau strydoedd newydd naill
ai yn Gymraeg neu'n ddwyieithog. Roedd gweithdrefn wedi eu llunio ar gyfer y diben hwnnw a oedd yn cynnwys
ymgynghoriad ehangach, ac roedd y goblygiadau
o ran cost wedi cael eu nodi yn yr adroddiad.
Croesawodd y Cabinet y polisi o ran darparu
canllawiau a gweithdrefnau clir ac roedd yn falch o nodi cyfranogiad cynghorau
tref / cymuned a thrigolion lleol o fewn y broses. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau'r
aelodau ynghylch gweithrediad y polisi, gan gynnwys ymarferoldeb a chost, a
manylodd ar y materion cyfreithiol sy'n ymwneud â'r swyddogaeth. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol
-
·
Amlygodd
y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio newid i'r polisi ym mharagraff 4.3,
Adran C i egluro na allai'r Cyngor wrthod cais i ychwanegu enw eiddo at eiddo
presennol wedi’i rifo ond byddai'n cyhoeddi canllawiau ar briodoldeb yr enw i
osgoi gwrthdaro a pheri tramgwydd
·
Roedd
yr aelodau’n awyddus i ddatblygwyr ymgynghori â chymunedau a chynghorau tref/
cymuned ar ddewisiadau enwau strydoedd yn gynnar yn y broses a chadarnhaodd
swyddogion y gellid rhoi canllawiau mewn perthynas â hynny i ddatblygwyr yn
ystod y cam cyflwyno cais cynllunio neu pan roddwyd caniatâd cynllunio. Cytunwyd hefyd i ddosbarthu'r polisi i
gynghorau tref / cymuned i sicrhau bod awgrymiadau enwau strydoedd yn addas ac
yn briodol
·
Er y
derbyniwyd y rhesymau y tu ôl i'r cynnig i wahardd enwi strydoedd ar ôl
unigolion penodol, teimlai'r Cabinet y byddai'n fuddiol gwneud hynny lle'r oedd
cysylltiad hanesyddol neu ddiwylliannol clir rhwng yr unigolyn a'r ardal dan
sylw
·
nodwyd
bod y canllawiau yn cynghori yn erbyn y defnydd o atalnodi mewn enwau strydoedd
ond teimlai’r Cabinet na ddylent fod yn argymell yr ymarfer hwnnw a chytunwyd
cael gwared ar y cyfeiriad hwn yn y polisi
·
yn
absenoldeb unrhyw gyfiawnhad, bod yn "Court" a "View" yn
ôl-ddodiaid anaddas, cytunwyd eu bod yn cael eu cynnwys ar y rhestr o
ôl-ddodiaid derbyniol.
Eglurodd y Cynghorydd Arwel Roberts pam ei fod
wedi codi'r mater o enwi strydoedd yn y Fforwm Dwyieithrwydd a diolchodd i'r
swyddogion a'r Cynghorydd Huw Jones am eu gwaith wrth lunio'r polisi a oedd yn
cefnogi'r iaith Gymraeg a dwyieithrwydd.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cytuno ar y
Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo newydd arfaethedig fel y'i nodwyd yn Atodiad 1
i'r adroddiad, yn amodol ar y diwygiadau canlynol -
-
Bod paragraff 4.3, Adran C yn cael ei ail-eirio er mwyn
egluro na allai'r Cyngor wrthod cais i ychwanegu enw i eiddo â dim ond rhif
arno ar hyn o bryd ond y byddai'n cyhoeddi canllawiau ynghylch priodoldeb enw’r
eiddo er mwyn osgoi gwrthdaro ac yn achosi tramgwydd
-
dileu paragraff 1.9, Adran B yn ymwneud â'r defnydd o
atalnodi
-
cynnwys "Court" a "View" ar y rhestr
o ôl-ddodiaid derbyniol
-
bod paragraff 1.6, Adran B yn cael ei ddiwygio gyda'r
geiriau ychwanegol "oni bai bod achos clir yn cael ei wneud ynghylch
cysylltiad hanesyddol neu ddiwylliannol yr unigolyn i'r tir neu’r
gymdogaeth", a
(b) nodi bod y
swyddogaeth enwi strydoedd a rhifo yn cael ei reoli gan y Pennaeth Gwella
Busnes a Moderneiddio.