Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 25/03/2014 - Cabinet (Eitem 10)

10 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn nodi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi'r cynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

(b)       cymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol o’r cronfeydd wrth gefn fel y manylir yn Adran 6 o’r adroddiad - £23m o’r gronfa Cynllunio mewn perthynas â ffioedd a dderbyniwyd yn y flwyddyn gyfredol, ond sy'n ymwneud â gwariant yn 2014/15

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.  Rhoddodd y grynodeb ganlynol ar sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd tanwariant o £1.412m ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        roedd 91% o’r arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u cyflawni hyd yma (targed £3.061m)

·        tynnwyd sylw at amrywiannau allweddol yng nghyllidebau neu dargedau i wneud arbedion sy'n ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        symudiad positif o £398k ar falansau ysgol a gariwyd drosodd o 2012/13.

·        diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd i gymeradwyo i drosglwyddo £23k i'r gronfa Cynllunio.

 

Fe gyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at ei gais yn y Cyngor Llawn i anfon llythyr at Aelodau'r Cynulliad yn gofyn iddynt i lobïo am newid i'r system cyllid Cyfrif Refeniw Tai i sicrhau bod awdurdodau lleol a oedd yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ddim yn cael eu cosbi o ran y symiau y gellir ei fuddsoddi yn y dyfodol.  Gofynnodd i lythyr gael ei anfon cyn gynted ag y bo modd a'i fod yn derbyn copi.

 

Nododd yr Aelodau bod y sefyllfa ariannol sylfaenol yn dda gan longyfarch adrannau ar eu cyflawniadau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       chymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol i’r cronfeydd wrth gefn fel y manylir yn Adran 6 o’r adroddiad - £23k o gronfa Cynllunio wrth gefn mewn perthynas â ffioedd a dderbyniwyd yn y flwyddyn gyfredol, ond sy'n ymwneud â gwariant yn 2014/15