Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

TOWN AND AREA PLANS

Cyfarfod: 25/03/2014 - Cabinet (Eitem 7)

7 CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL pdf eicon PDF 102 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd a Huw Jones, Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi'n amgaeëdig) yn diweddaru'r Cabinet ar Gynlluniau Tref ac Ardal a gofyn am fabwysiadu’r cynlluniau ar gyfer Rhyl, Dinbych a Rhuddlan a chymeradwyo cyllid ar gyfer y blaenoriaethau sydd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo mabwysiadu'r Cynlluniau Ardal (sy’n cynnwys y Cynlluniau Tref presennol) ar gyfer y Rhyl, Dinbych  Rhuddlan;

 

(b)       cymeradwyo'r cyllid ar gyfer y blaenoriaethau a nodir yn y Cynlluniau Ardal a gyfeirir atynt uchod; ac yn

 

(c)        nodi’r wybodaeth o safbwynt gwariant hyd yn hyn ar y Cynlluniau Tref ac Ardal.

 

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad i fabwysiadu Cynlluniau Tref ac Ardal ar gyfer y Rhyl, Dinbych a Rhuddlan a chymeradwyo cyllid ar gyfer y blaenoriaethau wedi'u cynnwys yn y cynlluniau hynny.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad o wariant hyd yma yn erbyn Cynlluniau Tref ac Ardal.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Evans yr angen i gysylltu Cynlluniau Tref / Ardal â’r strategaeth economaidd ac fe eglurodd sut y bydd y cynlluniau’n cyfrannu at y flaenoriaeth gorfforaethol o ddatblygu'r economi leol a dod â'r Cyngor yn nes at gymunedau.  O ran Cynllun y Rhyl fe eglurodd sut y mae’n cysylltu ac yn cyd-fynd â’r cynlluniau presennol, gan gynnwys Y Rhyl yn Symud Ymlaen a Strategaeth Dinas y Rhyl.   Roedd y Cynghorydd Joan Butterfield yn cefnogi cymeradwyo Cynllun y  Rhyl a dangosodd ei gwerthfawrogiad i’r swyddogion am eu harweiniad yn ei ddatblygiad.  Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies ynghylch Gorsaf Reilffordd Y Rhyl, gofynnodd y Cadeirydd i Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus ymchwilio i ddyraniad y cyllid ac i weithredu’r gwaith.

 

Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Busnes Economaidd i gwestiynau ynghylch gwariant hyd yma ac eglurodd y broses o fonitro cyllid ar gyfer Cynlluniau Tref ac Ardal.  Mynegodd y Cynghorydd Eryl Williams bryder bod angen prawf o arian cyfatebol ar gyfer prosiect yn ei faes ond bod hynny ddim yn angenrheidiol ar gyfer meysydd eraill.  Cytunodd y Prif Weithredwr ynglŷn â’r angen am safbwynt eglur ar arian cyfatebol a theimlai fel egwyddor cyffredinol na ddylid cychwyn ar brosiectau nes bod arian cyfatebol wedi'i sicrhau.  Yn ystod y drafodaeth codwyd rôl bwysig Grwpiau Ardal yr Aelodau wrth fonitro cynnydd prosiectau  gwario ac adolygu ynghyd â'r angen am amserlenni prosiect realistig.  Tynnwyd sylw at y diffyg cysondeb ar draws Cynlluniau Tref ac Ardal a'r angen i sicrhau dyraniadau yn seiliedig ar y defnydd gorau ar gyfer cymunedau.  Mynegodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei phryderon yn arbennig am y ffordd y mae arian yn cael ei ddyrannu ac er ei bod hi’n cytuno i dderbyn cynlluniau tref ac ardal eleni, fe ofynnodd i’r cynlluniau gael eu gwella yn unol â chynnwys y Cynllun Corfforaethol cyn y flwyddyn nesaf.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol sicrwydd y byddai'r materion a godwyd gan yr aelodau yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad o'r broses Cynlluniau Ardal.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo mabwysiadu'r Cynlluniau Ardal (yn ymgorffori Cynlluniau Tref presennol) ar gyfer Y Rhyl, Dinbych a Rhuddlan;

 

(b)       yn cymeradwyo'r cyllid ar gyfer y blaenoriaethau a nodir yn y  Cynlluniau Ardal a gyfeirir atynt uchod, ac

 

(c)        yn nodi'r wybodaeth mewn perthynas i wario hyd yma yn erbyn y Cynlluniau Tref ac Ardal.