Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 043844

Cyfarfod: 05/03/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)

5 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 043844

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio penderfyniad gan yr aelodau ynglŷn â chais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 043844.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais ar gyfer trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 043844.

 

Cofnodion:

[Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)            cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 043,844 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn adfer ei Drwydded DVLA;

 

(ii)          roedd y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 27 Mehefin  2013 wedi dirymu trwydded yr Ymgeisydd i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat ar ôl iddo gael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis o dan y drefn cyfansymio;

 

(iii)         roedd yr Ymgeisydd hefyd cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu ei drwydded ym mis Rhagfyr 2012 ac Ionawr 2013;

 

(iv)         polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(v)           gofynnwyd i’r Ymgeisydd fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Crynhodd y Swyddog Trwyddedu (JT) yr adroddiad ac eglurodd bod y mater wedi cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded o gofio ei hanes fel gyrrwr trwyddedig.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd yr amgylchiadau a arweiniodd at ei waharddiad, gan gynnwys ei drosedd foduro olaf ym mis Hydref 2012, ac roedd yn awyddus i dawelu meddwl y pwyllgor nad oedd yn goryrru’n rheolaidd.  Ychwanegodd ei fod wedi dysgu gwers galed ac wedi dioddef caledi o ganlyniad i'r gwaharddiad.  Roedd yr Ymgeisydd wedi parhau i weithio i'r un cwmni mewn rôl wahanol yn ystod ei gyfnod o waharddiad a dywedodd fod ei gyflogwr a chwsmeriaid yn awyddus iddo ddychwelyd i weithio fel gyrrwr tacsi.  Yn olaf, hysbysodd yr Ymgeisydd yr aelodau ei fod wedi mwynhau bod yn yrrwr tacsi ac yn dymuno parhau â'r proffesiwn.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau eglurodd yr Ymgeisydd yr amgylchiadau o gwmpas ei gollfarn goryrru a chyfeiriodd at y defnydd priodol o gyflymder yn yr Adroddiad Asesiad Gyrwyr a gynhyrchwyd ym mis Ionawr 2013 yn dilyn cwblhau'r Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru.  Cadarnhaodd hefyd nad oedd ganddo unrhyw gollfarnau moduro arfaethedig.

 

Yn ei ddatganiad terfynol, cyflwynodd yr Ymgeisydd eirda gan ei gyflogwr yn cadarnhau at ei gymeriad da a gafodd ei ddarllen allan gan y Cadeirydd.  Ychwanegodd ei fod wedi bod yn gyrru am bedair blynedd ar hugain ac nad oedd erioed wedi bod mewn damwain, gan bwysleisio ei fod yn yrrwr diogel.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  041213 yn cael ei roi.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad yn ofalus a chyflwyniad yr Ymgeisydd o blaid ei gais, gan gynnwys ei eirda.  Wrth benderfynu ar addasrwydd yr Ymgeisydd, roedd y pwyllgor yn derbyn eglurhad yr Ymgeisydd ynglŷn â’i gollfarnau gyrru ac o'r farn ei fod wedi talu’r pris yn y cyswllt hwnnw.  Roedd ei eirda hefyd wedi cyfrannu llawer tuag at gefnogi ei gefnogi; roedd ei gyflogwyr wedi dangos cred ynddo a’i werthfawrogi fel cyflogai ac wedi parhau i’w gyflogi mewn rôl weinyddol drwy gydol ei waharddiad gyrru.  Nodwyd hefyd y byddai caniatáu'r cais yn cydymffurfio â pholisi'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau.  O ganlyniad, mynegodd aelodau hyder yng ngallu'r Ymgeisydd i gludo aelodau o'r cyhoedd yn ddiogel a phenderfynwyd caniatáu'r cais.  Fodd bynnag, cafodd yr Ymgeisydd ei rybuddio y byddai unrhyw gamwedd yn y dyfodol yn cael ei drin yn ddifrifol.

 

Felly cafodd penderfyniad y pwyllgor  ...  view the full Cofnodion text for item 5