Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR RENEWAL OF A SEX ESTABLISHMENT LICENCE
Cyfarfod: 05/03/2014 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)
6 CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED SEFYDLIAD RHYW PDF 77 KB
Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (mae copi wedi’i amgáu)
mewn perthynas â chais gan Adult World i
adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw i eiddo sydd wedi ei leoli yn 43-47 Heol y
Frenhines, Y Rhyl.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais i adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw
mewn perthynas ag eiddo yn 43 – 47 Queen Street, y Rhyl, gyda’r opsiwn o dalu’r
ffi adnewyddu o £2600 mewn deg rhandaliad misol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn
am benderfyniad yr aelodau am gais i adnewyddu trwydded sefydliad rhyw a
dderbyniwyd oddi wrthAdult World mewn perthynas ag eiddo a leolir yn 43 - 47
Queen Street, Y Rhyl.
Cyfeiriodd y Swyddog Trwyddedu at y telerau talu ar gyfer
y ffi adnewyddu ac er mwyn eglurder gwnaethpwyd newid i eiriad yr argymhelliad. Mewn ymateb i gwestiynau
cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu y ffioedd ar gyfer ceisiadau am drwyddedau
newydd ac i adnewyddu trwyddedau a dywedodd byddai’r ffioedd hynny yn cael eu
hadolygu cyn bo hir.
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais i adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw mewn perthynas ag eiddo yn 43 - 47
Queen Street, Y Rhyl gyda'r opsiwn o dalu'r ffi adnewyddu o £2,600 mewn deg
rhandaliad misol.