Mater - cyfarfodydd
HOUSNG REVENUE ACCOUNT RENT SETTING, REVENUE BUDGETS AND CAPITAL BUDGETS 2014/15
Cyfarfod: 18/02/2014 - Cabinet (Eitem 12)
12 LLEOLIAD RHENT CYFRIF REFENIW TAI, CYLLIDEBAU REFENIW A CHYFALAF 2014/15 PDF 99 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a
Chymunedau (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i'r cynnydd
arfaethedig mewn Rhent a Thâl Gwasanaeth a Chyllidebau Cyfalaf ar
Refeniw Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2014/15.
Dogfennau ychwanegol:
- HRA REPORT - APPENDIX 1, Eitem 12 PDF 16 KB
- HRA REPORT - APPENDIX 2, Eitem 12 PDF 19 KB
- HRA REPORT - APPENDIX 3, Eitem 12 PDF 59 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD -
(a) mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2014/15 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y
Stoc Tai (Atodiad 2);
(b) cynyddu rhenti
anheddau Cyngor yn unol â chanllawiau Polisi Gosod Rhent Llywodraeth Cymru (4.59%
yr wythnos ar gyfartaledd) o ddydd Llun 7 Ebrill 2014;
(c) cynyddu rhenti
garejis y Cyngor yn unol â Rhenti Awgrymedig (4.59% yr wythnos ar gyfartaledd)
a chynyddu Taliadau Gwresogi o 7.5% o ddydd Llun 7 Ebrill 2014;
(d) cymeradwyo
blaenoriaethau'r rhaglen gyfalaf ar gyfer buddsoddi stoc ar gyfer 2014 - 2019
(Atodiad 3) yn amodol ar ymarfer tendro llawn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving adroddiad yn gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn Rhent a Thâl Gwasanaeth a Chyllidebau
Cyfalaf a Refeniw Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer
2014/15. Arweiniodd yr aelodau
trwy ffigyrau’r gyllideb a’r rhesymau dros y cynnydd arfaethedig mewn rhent a
thaliadau.
Yn sgil y prinder garejys yng Nghynwyd, roedd y Cynghorydd Huw Jones yn
awyddus i sicrhau bod yr adolygiad a gynlluniwyd o garejys y cyngor yn cael ei
gynnal. Ymatebodd swyddogion i
gwestiynau ynglŷn â’r rhaglen gyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn stoc gan
ymhelaethu ar waith trwsio a nodwyd, costau cynnal a gwella yn deillio o’r adolygiad a wnaed yn
ddiweddar i’r stoc tai. Roedd y Cyngor yn mynd rhagddo’n unol â'r Safon Ansawdd
Tai Cymru a oedd wedi canolbwyntio’n helaeth ar elfennau mewnol. Ar ôl cyflawni
hynny byddai buddsoddiad yn cael ei dargedu ar gyfer elfennau allanol.
PENDERFYNWYD bod –
(a) Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer
2014/15 (Atodiad 1) a Chynllun Busnes y Stoc Tai (Atodiad 2) yn cael eu
mabwysiadu;
(b) rhenti ar gyfer tai’r Cyngor yn cynyddu
yn unol â chanllawiau’r Polisi Gosod Rhenti gan Lywodraeth Cymru (cyfartaledd o
4.59% yr wythnos) yn weithredol o ddydd Llun 7 Ebrill 2014;
(c) rhenti ar gyfer garejys y Cyngor yn
cynyddu yn unol â Rhenti Awgrymedig
(cyfartaledd o 4.59% yr wythnos) a Thaliadau Gwresogi ar sail 7.5% yn
weithredol o ddydd Llun 7 Ebrill 2014, a
(d) bod blaenoriaethau’r
rhaglen gyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn stoc am y cyfnod 2014 - 2019 yn cael eu
cymeradwyo (Atodiad 3) ac yn amodol ar ymarferiad tendro llawn.