Mater - cyfarfodydd
NATIONAL MODEL FOR REGIONAL WORKING ON SCHOOL IMPROVEMENT
Cyfarfod: 18/02/2014 - Cabinet (Eitem 7)
7 MODEL CENEDLAETHOL O WEITHIO’N RHANBARTHOL I WELLA YSGOLION PDF 78 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n
amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o'r Model Cenedlaethol arfaethedig
ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol i Wella Ysgolion a datblygu cynllun busnes.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol i Wella Ysgolion yn cael
ei fabwysiadu a bod cynllun busnes yn cael ei ddatblygu gyda'r bwriad o
ymgorffori’r gwasanaethau ychwanegol a restrir yn y Model i mewn i fodel
rhanbarthol Gwe, mewn camau, yn amodol ar achos busnes boddhaol ar gyfer pob un
a chynllun pontio ategol i sicrhau parhad a pherfformiad y gwasanaeth.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn
diweddaru aelodau ynglŷn â datblygiadau mewn perthynas â gwasanaethau
gwella ysgolion a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo’r Model Cenedlaethol o
Weithio’n Rhanbarthol i Wella Ysgolion a gynigir a datblygu cynllun busnes. Nod
y Model oedd cysoni a sefydlogi gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol yr
awdurdodau lleol.
Roedd y Cabinet yn cefnogi’r Model mewn egwyddor ond gofynnodd am
sicrwydd y byddai gwelliannau Sir Ddinbych mewn safonau addysg yn parhau o dan
y Model newydd ac na fyddai’n cael effaith niweidiol ar Sir Ddinbych. Hefyd
codwyd cwestiynau ynglŷn â chyllid, adnoddau ac atebolrwydd. Ymatebodd y
Cynghorydd Williams a’r swyddogion fel a ganlyn
-
·
nid oedd cyfrifoldeb statudol dros addysg a gwella ysgolion wedi ei drosglwyddo ac awdurdodau lleol oedd yn
dal yn gyfrifol amdano
·
y bwriad oedd cysoni darpariaeth ar draws y consortia ac
nid oedd y Model yn gwahaniaethu’n sylweddol i ddull Sir Ddinbych ei hun
·
byddai
swyddogaethau’n cael eu trosglwyddo’n unig pe baen nhw’n cael eu rheoli’n fwy
effeithiol yn rhanbarthol a byddent yn destun adolygiad achos busnes llawn yn y
lle cyntaf
·
pwysleisiwyd y pwysigrwydd o ddatblygu
sicrwydd ansawdd i sicrhau nad oedd safonau’n gostwng
·
roedd cyllid yn gymesur a byddai ymyrraeth yn
cael ei thargedu lle’r oedd yr angen mwyaf
·
byddai’n rhaid i unrhyw newid mawr i’r model cenedlaethol fynd trwy’r
broses ddemocrataidd
·
byddai gwerthusiad o ddeilliannau’r Model yn cael ei wneud ar ôl cael y
canlyniadau cyntaf.
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd y Grŵp Monitro Safonau ysgol er mwyn
herio ysgolion a nodi unrhyw gryfderau a gwendidau. Pwysleisiodd y Cynghorydd
Williams ei bod yn bwysig i aelodau gymryd rhan yn y broses honno a fyddai’n
cael ei hystyried ymhellach gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion.
Hefyd rhybuddiodd na ddylid gorffwys ar ein rhwyfau a bod angen anelu at
welliant parhaus mewn ysgolion.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Model
Cenedlaethol o Weithio’n Rhanbarthol i Wella Ysgolion a bod cynllun busnes yn
cael ei ddatblygu gyda’r bwriad o gynnwys y gwasanaethau ychwanegol a restrir
yn y Model ym model rhanbarthol GwE, fesul cam, yn amodol ar achos busnes
boddhaol ar gyfer pob un a chynllun trosglwyddo cefnogol i sicrhau parhad
gwasanaeth a pherfformiad.