Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

FUTURE OF CLWYD LEISURE LIMITED

Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 8)

8 DYFODOL CLWYD LEISURE LIMITED

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi i ddilyn) ar y dewisiadau ar gyfer cyfleusterau a weithredir ar hyn o bryd gan Clwyd Leisure Limited.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y Cyngor yn ailddatgan ei weledigaeth o ran datblygu cyfleusterau twristiaeth a hamdden o'r radd flaenaf fel rhan o'r cynnig tymor hir;

 

(b)       bod y Cabinet yn gofyn i Fwrdd Clwyd Leisure Limited ymateb erbyn 31 Ionawr 2014 gan nodi eu cynlluniau tymor byr a chanolig ar gyfer eu cyfleusterau;

 

(c)        bod y Cabinet yn cadarnhau y byddai rheoli Cwmni Cyfyngedig Clwyd Leisure yn ormod o risg;

 

(d)       yn sgil y pryderon parhaus a chanfyddiadau ymarfer sylw dyledus, bod y Cyngor yn rhoi'r gorau i ariannu Clwyd Leisure Limited o 1 Ebrill 2014 ymlaen;

 

(e)       bod y cyllid presennol sydd ar gael i gefnogi Clwyd Leisure Limited (tua £200 mil yn 2014/15) yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn ac i ddatblygu cynnig dros dro tra bod y Cyngor yn penderfynu ar y cynnig tymor hir.

 

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen ar y rhaglen gyda chydsyniad yr Arweinydd]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones adroddiad cyfrinachol ar yr opsiynau ar gyfer darparu’r cyfleusterau a weithredir ar hyn o bryd gan Clwyd Leisure Limited yn y dyfodol.

 

Darllenwyd deiseb a gydlynwyd gan aelod o staff Canolfan Fowls Gogledd Cymru yn annog y Cyngor i gymryd camau i atal y cyfleusterau rhag cau.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth ofalus i ganfyddiadau'r ymarferiad diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd a'r achos a wnaed ar gyfer opsiynau i'r dyfodol a manteisiwyd ar y cyfle i holi’r swyddogion ar hynny er mwyn bodloni eu hunain o ran y ffordd orau o weithredu.  Yn ystod trafodaeth fanwl, codwyd pryderon dwys am y ffordd roedd y cwmni’n cael ei redeg a gweithrediad y cyfleusterau.  Er y cytunwyd na allai'r Cyngor gymryd drosodd na pharhau i ariannu'r cwmni yn sgil y pryderon hynny, ailadroddwyd eu hymrwymiad i wella’r ddarpariaeth twristiaeth a hamdden arfordirol.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       bod y Cyngor yn ailddatgan ei weledigaeth o ran datblygu cyfleusterau twristiaeth a hamdden o'r radd flaenaf fel rhan o'r ddarpariaeth arfordirol tymor hir.

 

(b)       bod y Cabinet yn galw ar Fwrdd Clwyd Leisure Limited i ddatgan erbyn 31 Ionawr 2014 beth oedd eu cynlluniau tymor byr a chanolig ar gyfer gweithredu’r cyfleusterau;

 

(c)        bod y Cabinet yn cadarnhau y byddai rheoli Cwmni Clwyd Leisure Limited yn ormod o risg.

 

(d)       yn sgil y pryderon parhaus a chanfyddiadau’r ymarferiad diwydrwydd dyledus, dylai’r Cyngor roi'r gorau i ariannu Clwyd Leisure Limited o 1 Ebrill 2014 ymlaen, a

 

(e)       bod y cyllid presennol sydd ar gael i gefnogi Clwyd Leisure Limited (tua £200k yn 2014/15) yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn ac i ddatblygu darpariaeth dros dro tra bod y Cyngor yn penderfynu ar ddyfodol tymor hir y ddarpariaeth arfordirol.

 

Ar y pwynt hwn, cafodd y Cabinet egwyl ar gyfer cinio ac ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored am 3.00 pm