Mater - cyfarfodydd
FUTURE OF CLWYD LEISURE LIMITED
Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 8)
8 DYFODOL CLWYD LEISURE LIMITED
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Hamdden,
Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig (copi i ddilyn) ar y dewisiadau ar
gyfer cyfleusterau a weithredir ar hyn o bryd gan Clwyd Leisure Limited.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD -
(a) bod y Cyngor yn
ailddatgan ei weledigaeth o ran datblygu cyfleusterau twristiaeth a hamdden o'r
radd flaenaf fel rhan o'r cynnig tymor hir;
(b) bod y Cabinet yn
gofyn i Fwrdd Clwyd Leisure Limited ymateb erbyn 31 Ionawr 2014 gan nodi eu
cynlluniau tymor byr a chanolig ar gyfer eu cyfleusterau;
(c) bod y Cabinet yn
cadarnhau y byddai rheoli Cwmni Cyfyngedig Clwyd Leisure yn ormod o risg;
(d) yn sgil y
pryderon parhaus a chanfyddiadau ymarfer sylw dyledus, bod y Cyngor yn rhoi'r
gorau i ariannu Clwyd Leisure Limited o 1 Ebrill 2014 ymlaen;
(e) bod y cyllid
presennol sydd ar gael i gefnogi Clwyd Leisure Limited (tua £200 mil yn
2014/15) yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn ac i ddatblygu cynnig
dros dro tra bod y Cyngor yn penderfynu ar y cynnig tymor hir.
Cofnodion:
[Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen ar y rhaglen
gyda chydsyniad yr Arweinydd]
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones adroddiad
cyfrinachol ar yr opsiynau ar gyfer darparu’r cyfleusterau a weithredir ar hyn
o bryd gan Clwyd Leisure Limited yn y dyfodol.
Darllenwyd deiseb a gydlynwyd gan aelod o staff
Canolfan Fowls Gogledd Cymru yn annog y Cyngor i gymryd camau i atal y
cyfleusterau rhag cau.
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth ofalus i
ganfyddiadau'r ymarferiad diwydrwydd dyladwy a gynhaliwyd a'r achos a wnaed ar
gyfer opsiynau i'r dyfodol a manteisiwyd ar y cyfle i holi’r swyddogion ar
hynny er mwyn bodloni eu hunain o ran y ffordd orau o weithredu. Yn ystod trafodaeth fanwl, codwyd pryderon
dwys am y ffordd roedd y cwmni’n cael ei redeg a gweithrediad y cyfleusterau. Er y cytunwyd na allai'r Cyngor gymryd
drosodd na pharhau i ariannu'r cwmni yn sgil y pryderon hynny, ailadroddwyd eu
hymrwymiad i wella’r ddarpariaeth twristiaeth a hamdden arfordirol.
PENDERFYNWYD -
(a) bod y Cyngor yn
ailddatgan ei weledigaeth o ran datblygu cyfleusterau twristiaeth a hamdden o'r
radd flaenaf fel rhan o'r ddarpariaeth arfordirol tymor hir.
(b) bod y Cabinet yn
galw ar Fwrdd Clwyd Leisure Limited i ddatgan erbyn 31 Ionawr 2014 beth oedd eu
cynlluniau tymor byr a chanolig ar gyfer gweithredu’r cyfleusterau;
(c) bod y Cabinet yn
cadarnhau y byddai rheoli Cwmni Clwyd Leisure Limited yn ormod o risg.
(d) yn sgil y
pryderon parhaus a chanfyddiadau’r ymarferiad diwydrwydd dyledus, dylai’r
Cyngor roi'r gorau i ariannu Clwyd Leisure Limited o 1 Ebrill 2014 ymlaen, a
(e) bod y cyllid
presennol sydd ar gael i gefnogi Clwyd Leisure Limited (tua £200k yn 2014/15)
yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r newidiadau hyn ac i ddatblygu darpariaeth
dros dro tra bod y Cyngor yn penderfynu ar ddyfodol tymor hir y ddarpariaeth
arfordirol.
Ar y pwynt hwn,
cafodd y Cabinet egwyl ar gyfer cinio ac ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn
agored am 3.00 pm