Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

ADRODDIAD CYLLID

Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 12)

12 ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi i ddilyn) yn nodi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd ar gyfer y gyllideb.

 

(b)       yn cymeradwyo trosglwyddo’r symiau canlynol i gronfeydd wrth gefn fel y nodir yn Adran 6 yr adroddiad:

 

  • £72 mil i Gronfa Wrth Gefn EDRMS
  • £355 mil i'r Gronfa Buddsoddi Strategol (Tai Gofal Ychwanegol)
  • £300 mil i Gronfa Wrth Gefn Moderneiddio Gofal Cymdeithasol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.  Rhoddodd y grynodeb ganlynol ar sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd tanwariant o £951k ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        roedd 76% (£3.061m) o’r arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u sicrhau hyd yma

·        amlygwyd y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol

·        symudiad negyddol o £6k ar falansau ysgolion a ddygwyd ymlaen o 2012/13.

·        diweddariad cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

 Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet gymeradwyo tri throsglwyddiad i gronfeydd wrth gefn fel y nodir yn adran 6 yr adroddiad:  Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, dywedodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod y Cyngor ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £950k ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond gallai’r ffigwr hwnnw newid.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a gytunwyd ar gyfer y gyllideb, a

 

(b)       Cymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol i’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn Adran 6 yr adroddiad:

 

  • £72k i’r Gronfa Wrth Gefn EDRMS
  • £355k i'r Gronfa Buddsoddi Strategol (Tai Gofal Ychwanegol)
  • £300k i Gronfa Wrth Gefn Moderneiddio Gofal Cymdeithasol.