Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 12)
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi i ddilyn) yn nodi manylion y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb a gytunwyd.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 12 PDF 24 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 12 PDF 22 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 12 PDF 26 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth
a gytunwyd ar gyfer y gyllideb.
(b) yn cymeradwyo
trosglwyddo’r symiau canlynol i gronfeydd wrth gefn fel y nodir yn Adran 6 yr
adroddiad:
- £72 mil i Gronfa Wrth
Gefn EDRMS
- £355 mil i'r Gronfa
Buddsoddi Strategol (Tai Gofal Ychwanegol)
- £300 mil i Gronfa Wrth
Gefn Moderneiddio Gofal Cymdeithasol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a
chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni. Rhoddodd y grynodeb ganlynol ar sefyllfa
ariannol y Cyngor-
·
rhagwelwyd
tanwariant o £951k ar draws cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol
·
roedd
76% (£3.061m) o’r arbedion y cytunwyd arnynt wedi’u sicrhau hyd yma
·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol
·
symudiad
negyddol o £6k ar falansau ysgolion a ddygwyd ymlaen o 2012/13.
·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Gofynnwyd hefyd i’r Cabinet
gymeradwyo tri throsglwyddiad i gronfeydd wrth gefn fel y nodir yn adran 6 yr
adroddiad: Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, dywedodd y Cynghorydd
Thompson-Hill fod y Cyngor ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £950k ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond gallai’r ffigwr hwnnw newid.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
–
(a) nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd yn erbyn y strategaeth a
gytunwyd ar gyfer y gyllideb, a
(b) Cymeradwyo’r trosglwyddiad canlynol i’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn
Adran 6 yr adroddiad:
- £72k i’r Gronfa Wrth
Gefn EDRMS
- £355k i'r Gronfa
Buddsoddi Strategol (Tai Gofal Ychwanegol)
- £300k i Gronfa Wrth
Gefn Moderneiddio Gofal Cymdeithasol.