Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

FRAMEWORK FOR INTEGRATED SERVICES FOR OLDER PEOPLE

Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 6)

6 FFRAMWAITH AR GYFER GWASANAETHAU INTEGREDIG AR GYFER POBL HŶN pdf eicon PDF 122 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn hysbysu'r aelodau o fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Datganiad o Fwriad drafft sydd i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn ymateb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i gyflwyno’r Datganiad o Fwriad drafft (gwelwch Atodiad 1) i Lywodraeth Cymru fel ymateb rhanbarthol cychwynnol i ddogfen Llywodraeth Cymru "Fframwaith ar gyfer Darparu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig" (Gorffennaf 2013).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Datganiad o Fwriad drafft (ynghlwm wrth yr adroddiad) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’w bwriad i sefydlu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth.  Roedd y Datganiad yn ddogfen ranbarthol ond yn tynnu sylw at feysydd o arfer da a ddatblygwyd yn Sir Ddinbych.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones drosolwg o drafodaeth y pwyllgor archwilio ar y Datganiad a chadarnhaodd bod y pwyllgor wedi croesawu'r cynigion ac wedi gofyn i ddigon o adnoddau gael eu darparu i gynnig y gwasanaethau integredig.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol -

 

·        Amlygwyd yr Iaith Gymraeg fel elfen bwysig o ran sicrhau y gallai pobl sgwrsio yn Gymraeg os oeddent yn dymuno - nodwyd hefyd fod hwn yn fater a allai elwa o fonitro fel rhan o'r fframwaith integreiddio

·        rhoddwyd manylion yr amserlen ar gyfer datblygu cynigion am ddarpariaeth integredig drwy gyflwyno’r camau gweithredu pellach i Lywodraeth Cymru oedd yn ofynnol ystod y flwyddyn a’r dyddiad cwblhau ym mis Rhagfyr 2014

·        sefydlwyd fod y rhaglen integreiddio hefyd yn cynnwys y sector gwirfoddol ond byddai angen archwilio arian ar gyfer grwpiau gwirfoddol drwy’r ardaloedd lleol

·        gobeithiwyd y gellid hwyluso anawsterau blaenorol o ran gwaith partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel rhan o’r rhaglen integreiddio ac roedd yn fater a fyddai'n elwa o gael ei fonitro’n agos

·        Amlygwyd swyddogaeth hanfodol Meddygon Teulu wrth sefydlu gwasanaethau integredig ynghyd â phryderon dros amseroedd aros am apwyntiadau a sut y gellid ymdrin â’r materion hynny drwy'r fframwaith integredig – roedd y mater yn cael ei reoli drwy nifer o fforymau, gan gynnwys timau arweinyddiaeth lleol dan arweiniad meddygon teulu.  O safbwynt amseroedd aros, nodwyd fod y mater wedi’i godi o’r blaen gyda BIPBC a gellid ei amlygu eto fel rhwystr rhag integreiddio.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno y dylid cyflwyno’r Datganiad o Fwriad drafft (fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) i Lywodraeth Cymru fel ymateb rhanbarthol cychwynnol i ddogfen Llywodraeth Cymru “Fframwaith ar gyfer Darparu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig” (Gorffennaf 2013).