Mater - cyfarfodydd
FRAMEWORK FOR INTEGRATED SERVICES FOR OLDER PEOPLE
Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 6)
6 FFRAMWAITH AR GYFER GWASANAETHAU INTEGREDIG AR GYFER POBL HŶN PDF 122 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Oedolion a Phlant (copi'n amgaeedig) yn hysbysu'r aelodau o fwriad
Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig
i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn i’r
Cabinet gymeradwyo’r Datganiad o Fwriad drafft sydd i’w gyflwyno i Lywodraeth
Cymru mewn ymateb.
Dogfennau ychwanegol:
- FRAMEWORK FOR INTEGRATED SERVICES OP - APP 1, Eitem 6 PDF 446 KB
- FRAMEWORK FOR INTEGRATED SERVICES OP - APP 2, Eitem 6 PDF 96 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i gyflwyno’r Datganiad o Fwriad drafft (gwelwch Atodiad 1)
i Lywodraeth Cymru fel ymateb rhanbarthol cychwynnol i ddogfen Llywodraeth
Cymru "Fframwaith ar gyfer Darparu Gofal Iechyd a Chymdeithasol
Integredig" (Gorffennaf 2013).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad
yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Datganiad o Fwriad drafft (ynghlwm wrth yr
adroddiad) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’w bwriad i sefydlu
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i bobl hŷn sydd ag
anghenion cymhleth. Roedd y Datganiad yn ddogfen ranbarthol ond yn tynnu sylw at feysydd o
arfer da a ddatblygwyd yn Sir Ddinbych.
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau,
y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones drosolwg o drafodaeth y pwyllgor
archwilio ar y Datganiad a chadarnhaodd bod y pwyllgor wedi croesawu'r cynigion
ac wedi gofyn i ddigon o adnoddau gael eu darparu i gynnig y gwasanaethau
integredig.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol -
·
Amlygwyd
yr Iaith Gymraeg fel elfen bwysig o ran sicrhau y gallai pobl sgwrsio yn
Gymraeg os oeddent yn dymuno - nodwyd hefyd fod hwn yn fater a allai elwa o
fonitro fel rhan o'r fframwaith integreiddio
·
rhoddwyd
manylion yr amserlen ar gyfer datblygu cynigion am ddarpariaeth integredig drwy
gyflwyno’r camau gweithredu pellach i Lywodraeth Cymru oedd yn ofynnol ystod y
flwyddyn a’r dyddiad cwblhau ym mis Rhagfyr 2014
·
sefydlwyd
fod y rhaglen integreiddio hefyd yn cynnwys y sector gwirfoddol ond byddai
angen archwilio arian ar gyfer grwpiau gwirfoddol drwy’r ardaloedd lleol
·
gobeithiwyd
y gellid hwyluso anawsterau blaenorol o ran gwaith partneriaeth gyda Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel rhan o’r rhaglen integreiddio ac
roedd yn fater a fyddai'n elwa o gael ei fonitro’n agos
·
Amlygwyd
swyddogaeth hanfodol Meddygon Teulu wrth sefydlu gwasanaethau integredig ynghyd
â phryderon dros amseroedd aros am apwyntiadau a sut y gellid ymdrin â’r
materion hynny drwy'r fframwaith integredig – roedd y mater yn cael ei reoli
drwy nifer o fforymau, gan gynnwys timau arweinyddiaeth lleol dan arweiniad
meddygon teulu. O safbwynt amseroedd aros, nodwyd fod y mater wedi’i godi o’r blaen gyda
BIPBC a gellid ei amlygu eto fel rhwystr rhag integreiddio.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cytuno y dylid cyflwyno’r Datganiad o Fwriad drafft (fel y
nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad) i Lywodraeth Cymru fel ymateb rhanbarthol
cychwynnol i ddogfen Llywodraeth Cymru “Fframwaith ar gyfer Darparu Gofal
Iechyd a Chymdeithasol Integredig” (Gorffennaf 2013).