Mater - cyfarfodydd
PROPOSED CLOSURE OF YSGOL LLANBEDR
Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 5)
5 Y CYNNIG I GAU YSGOL LLANBEDR PDF 165 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi’n
amgaeedig) ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol
Llanbedr ar 31 Awst 2014 ac ar symud y disgyblion presennol i Ysgol Borthyn,
Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am
gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig.
Dogfennau ychwanegol:
- YSGOL LLANBEDR - APP A, Eitem 5 PDF 221 KB
- YSGOL LLANBEDR - APP B, Eitem 5 PDF 919 KB
- YSGOL LLANBEDR - APP C, Eitem 5 PDF 106 KB
- YSGOL LLANBEDR - APP D, Eitem 5 PDF 12 MB
- YSGOL LLANBEDR - APP E, Eitem 5 PDF 2 MB
- SUPPLEMENT - YSGOL LLANBEDR APPENDIX 3, Eitem 5 PDF 104 KB
- SUPPLEMENT - YSGOL LLANBEDR GB RESPONSE LETTER, Eitem 5 PDF 25 KB
- SUPPLEMENT - YSGOL LLANBEDR GB RESPONSE APPENDIX, Eitem 5 PDF 113 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig i gau Ysgol
Llanbedr ar 31 Awst 2014 a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun,
yn dibynnu ar ddewis y rhieni.
Cofnodion:
[Ar gais yr Arweinydd Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd (PGCD) i’r materion cyfreithiol a godwyd cyn y cyfarfod ynghylch y
broses ymgynghori. Cadarnhaodd y PGCD ei fod yn fodlon ein bod
wedi cadw at y ddeddfwriaeth berthnasol ac nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol
rhag gwneud penderfyniad.]
Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
a oedd yn rhoi manylion canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau
Ysgol Llanbedr ar 31 Awst, 2014 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol
Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni, a gofynnodd am gymeradwyaeth y
Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig. Dosbarthwyd llythyr oddi wrth Esgob
Llanelwy’n gwrthwynebu'r cau yn y cyfarfod.
Cydnabu'r Cynghorydd Williams fod hwn yn
benderfyniad anodd, gan nodi bod Ysgol Llanbedr yn arfer bod yn ysgol
ffyniannus, a rhoddodd ganmoliaeth i’r gofal cyflawn a ddarparwyd gan yr ysgol. Nododd fod nifer o blant o Lanbedr wedi
penderfynu peidio â mynychu’r ysgol a chyfeiriodd at anawsterau blaenorol sydd
wedi effeithio ar nifer y disgyblion. Eglurodd y Cynghorydd Williams y cyd-destun dros
adolygu ysgolion a thynnodd sylw at benderfyniadau a chanlyniadau blaenorol fel
rhan o'r rhaglen foderneiddio addysg. Disgrifiodd hefyd gamau’r broses adolygu a oedd yn
cynnwys cau, uno neu ffederaleiddio’r ysgol neu gynnal y drefn bresennol.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at
gyfarfod diweddar gyda rhieni a llywodraethwyr i drafod y mater o chwarae teg i
Lanbedr. Roedd yn fodlon bod y broses yn un deg ac y byddai Llywodraeth Cymru wedi
rhoi sylw i’r mater pe na bai wedi bod yn deg.
Cydnabu’r Cabinet yr angen i fynd i'r afael â
lleoedd gwag fel rhan o’r adolygiad yn ardal Rhuthun a nodwyd bod 21 o
ddisgyblion yn mynychu’r ysgol a oedd â lle i 54. Nodwyd hefyd mai dim ond 7
o’r 21 disgybl oedd yn byw yn y gymuned ac nid oedd yn ymddangos bod unrhyw
ddewis penodol dros unrhyw ysgol arall. Roedd yr Aelodau'n cydnabod y pryderon a godwyd yn
ystod yr ymgynghoriad ond tynnwyd sylw at bwysigrwydd darparu addysg o ansawdd
a gwneud y mwyaf o botensial addysgol pobl ifanc yn ardal Rhuthun. Gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn ag
effaith cau ar gyrhaeddiad disgyblion a gofynnwyd am eglurhad pellach o ran
dewisiadau ysgol a chymryd ymagwedd gyson tuag at ysgolion eraill. Ymatebodd y Cynghorydd Eryl Williams a'r swyddogion
fel a ganlyn -
·
Enwyd
Ysgol Borthyn fel ysgol arall (fel ysgol ffydd Cyfrwng Saesneg) gydag ysgolion
eraill yn cael eu crybwyll fel dewisiadau eraill addas gan ymatebwyr i'r
ymgynghoriad, gan gynnwys Gellifor, Bro Famau a Stryd y Rhos
·
dim
ond un ymatebydd gadarnhaodd y byddent yn anfon eu plentyn/plant i Ysgol
Borthyn gyda'r mwyafrif yn dewis peidio â datgan dewis - os cytunwyd i gau'r
ysgol, byddem yn cysylltu â rhieni ynghylch eu dewisiadau
·
eglurwyd
y rhesymeg y tu ôl i benderfyniadau cynharach a wnaed mewn perthynas ag
ysgolion llai a'r cynigion ar gyfer ysgolion eraill fel rhan o adolygiad ardal
Rhuthun yn seiliedig ar ffactorau penodol yn ymwneud â’r ysgolion hynny
·
nid
fu’r adolygiadau blaenorol yn seiliedig ar niferoedd yn llwyddiannus a gellid
buddsoddi mewn ysgolion llai os oeddynt yn gynaliadwy
·
adroddwyd ar y safonau da o gyrhaeddiad yn
ysgolion Rhuthun, gan dynnu sylw at y ffaith fod perfformiad y tair ysgol ffydd
yn dda
·
nad
oedd unrhyw broblemau gyda darpariaeth cyfrwng Saesneg na dwyieithog yn yr
ardal.
Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams yn erbyn cau Ysgol Llanbedr ac roedd yn siomedig bod y mater wedi’i ddwyn gerbron y Cabinet mor fuan ar ôl dyddiad cau'r ymgynghoriad. Tynnodd sylw at y cysylltiadau cymunedol cryf rhwng yr ysgol a'r eglwys, a chefnogaeth rhieni a phlant lleol ... view the full Cofnodion text for item 5