Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

BUDGET 2014 / 2015

Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 11)

11 CYLLIDEB 2014/15 pdf eicon PDF 198 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r gyllideb ac yn manylu ar gynigion i’w cymeradwyo gan y Cyngor Sir er mwyn pennu cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2014/15.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb 2014/15 fel y dangosir yn Atodiad 1 o'r adroddiad ac yn argymell hynny i'r Cyngor llawn,

 

(b)       yn argymell y cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2014/15 i'r Cyngor llawn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn manylu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2014/15 a’r cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor yn sgil hynny.  Roedd cynigion ar gyfer arbedion ychwanegol o £2m i’r gyllideb er mwyn cwblhau’r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2014/15 wedi’u hatodi i’r adroddiad (Atodiad 1) ynghyd â manylion am arbedion o £6.5m ar y gyllideb a gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer 2014/15 (Atodiad 2).

 

Cyfeiriwyd at farn yr aelodau yn deillio o'r Gweithdy diweddar ar y Gyllideb a’r rhesymeg y tu ôl i’r cynigion a gyflwynwyd.   Mynegwyd rhai amheuon ynghylch y defnydd o falansau cyffredinol i helpu ymateb i’r diffyg o ran arbedion, ond rhoddwyd sicrwydd i’r Cabinet y byddai balansau’n aros ar lefel resymol ac nad oedd yn peri risg i'r Awdurdod.  Roedd y defnydd o falansau wedi’i fwriadu fel dyraniad un waith yn unig i ganiatáu amser i ddatblygu cynigion pellach am arbedion ar gyfer 2015/16. Byddai unrhyw ddigwyddiadau ar hap ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael eu dyrannu i falansau cyffredinol oni bai eu bod wedi’u clustnodi ar gyfer gwasanaethau penodol. Amlygwyd hefyd yr her ariannol sylweddol dros y blynyddoedd nesaf gyda phenderfyniadau anoddach i'w gwneud.

 

Talodd y Cynghorydd David Smith deyrnged i'r Pennaeth Cyllid ac Asedau a’i dîm am eu gwaith caled a’r rheolaeth o’r broses o bennu’r gyllideb.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)       cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb 2014/15 fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad ac yn argymell hynny i'r Cyngor llawn, ac

 

(b)       argymell y cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor yn sgil hynny ar gyfer 2014/15 i’r Cyngor llawn.