Mater - cyfarfodydd
BUDGET 2014 / 2015
Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 11)
11 CYLLIDEB 2014/15 PDF 198 KB
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) sy’n rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r
gyllideb ac yn manylu ar gynigion i’w cymeradwyo gan y Cyngor Sir er mwyn pennu
cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2014/15.
Dogfennau ychwanegol:
- BUDGET 2014-15 - APP 1 W, Eitem 11 PDF 34 KB
- BUDGET 2014-15 - APP 2 W, Eitem 11 PDF 26 KB
- BUDGET 2014-15 - APP 3 EQIA, Eitem 11 PDF 98 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb 2014/15 fel y dangosir yn Atodiad 1
o'r adroddiad ac yn argymell hynny i'r Cyngor llawn,
(b) yn argymell y
cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2014/15 i'r Cyngor llawn.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad
yn manylu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2014/15 a’r cynnydd o 3.5% yn lefel
Treth y Cyngor yn sgil hynny. Roedd cynigion ar gyfer arbedion ychwanegol o £2m i’r
gyllideb er mwyn cwblhau’r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2014/15 wedi’u hatodi i’r
adroddiad (Atodiad 1) ynghyd â manylion am arbedion o £6.5m ar y gyllideb a
gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer 2014/15 (Atodiad 2).
Cyfeiriwyd at farn yr aelodau yn deillio o'r Gweithdy
diweddar ar y Gyllideb a’r rhesymeg y tu ôl i’r cynigion a gyflwynwyd. Mynegwyd rhai amheuon ynghylch y defnydd o
falansau cyffredinol i helpu ymateb i’r diffyg o ran arbedion, ond rhoddwyd
sicrwydd i’r Cabinet y byddai balansau’n aros ar lefel resymol ac nad oedd yn
peri risg i'r Awdurdod. Roedd y defnydd o falansau wedi’i fwriadu fel dyraniad un
waith yn unig i ganiatáu amser i ddatblygu cynigion pellach am arbedion ar
gyfer 2015/16. Byddai unrhyw ddigwyddiadau ar hap ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol yn cael eu dyrannu i falansau cyffredinol oni bai eu bod wedi’u
clustnodi ar gyfer gwasanaethau penodol. Amlygwyd hefyd yr her ariannol
sylweddol dros y blynyddoedd nesaf gyda phenderfyniadau anoddach i'w gwneud.
Talodd y Cynghorydd David Smith deyrnged i'r Pennaeth
Cyllid ac Asedau a’i dîm am eu gwaith caled a’r rheolaeth o’r broses o bennu’r
gyllideb.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb 2014/15 fel y dangosir yn Atodiad 1 yr
adroddiad ac yn argymell hynny i'r Cyngor llawn, ac
(b) argymell y cynnydd o 3.5% yn lefel Treth y Cyngor yn sgil hynny ar gyfer
2014/15 i’r Cyngor llawn.