Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

COMMON ALLOCATIONS POLICY - SINGLE ACCESS ROUTE TO HOUSING

Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 7)

7 POLISI DYRANIADAU CYFFREDIN - UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI pdf eicon PDF 108 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau (copi'n amgaeedig) sy’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf  ar ddatblygu Un Llwybr Mynediad at Dai ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru Ac yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Polisi Dyraniadau Cyffredin i’w weithredu’n lleol .

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo'r Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer Sir Ddinbych fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad,

 

(b)       yn gofyn i swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio ar y camau i'w cymryd mewn perthynas â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a phwyntiau pellach a godwyd gan aelodau etholedig yn y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad ar ddatblygu Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) ar draws isranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru a gofyn i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i weithredu’r Polisi Dyraniadau Cyffredin yn lleol.  Roedd SARTH yn brosiect partneriaeth rhwng landlordiaid cymdeithasol mawr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar nod y Polisi Dyraniadau Cyffredin (PDC) a’i weithrediad arfaethedig ar draws sefydliadau partner.

 

Ymatebodd y swyddogion i nifer o wahanol senarios a gyflwynwyd iddynt mewn perthynas ag anghenion tai a chadarnhawyd nad oedd unrhyw gyswllt trawsffiniol rhwng awdurdodau lleol.  Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau na fyddai pobl leol, gan gynnwys y rhai a oedd ar y rhestr dai ar hyn o bryd, o dan anfantais o ganlyniad i’r polisi newydd a bod cysylltiadau lleol yn nodwedd amlwg yn y broses asesu.  Cyfeiriwyd at y cyd-destun cyfreithiol a’r categorïau dewis rhesymol mewn perthynas ag anghenion tai lle gellid gweithredu cysylltiadau lleol hefyd.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones drosolwg o drafodaeth y pwyllgor archwilio ar yr adroddiad gan dynnu sylw at nifer o bryderon a oedd wedi eu manylu yn Atodiad C yr adroddiad.  Adroddodd swyddogion ar y cynnydd wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd, a nodwyd y dylid delio â phryderon mewn perthynas â thai o ansawdd gwael a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fel mater ar wahân.  Cododd aelodau eraill faterion nad oeddynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r PDC, gan gynnwys is-osod tai fforddiadwy; safonau llety gwarchod a diffyg wardeiniaid mewn ardaloedd penodol, a thenantiaid nad oedd yn cynnal eiddo ac yn mynd ati i atal gwelliannau i eiddo.  I sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r holl faterion, cytunwyd y byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor archwilio ar hynny.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn –

 

(a)       cymeradwyo'r Polisi Dyraniadau Cyffredin ar gyfer Sir Ddinbych fel y manylwyd yn Atodiad A yr adroddiad, a

 

(b)       gofyn i swyddogion adrodd yn ôl i’r pwyllgor archwilio ar y camau i'w cymryd mewn perthynas â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau fel y nodir yn Atodiad C yr adroddiad a phwyntiau eraill a godwyd gan aelodau etholedig yn y Cabinet.