Mater - cyfarfodydd
COMMON ALLOCATIONS POLICY - SINGLE ACCESS ROUTE TO HOUSING
Cyfarfod: 14/01/2014 - Cabinet (Eitem 7)
7 POLISI DYRANIADAU CYFFREDIN - UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI PDF 108 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau
(copi'n amgaeedig) sy’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygu Un Llwybr Mynediad at Dai ar
draws Gogledd-ddwyrain Cymru Ac yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo Polisi
Dyraniadau Cyffredin i’w weithredu’n lleol .
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix a - CAP, Eitem 7 PDF 495 KB
- Appendix b - sarth cap EIA, Eitem 7 PDF 402 KB
- Appendix C - cabinet - jan 14, Eitem 7 PDF 188 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cymeradwyo'r
Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer Sir Ddinbych fel y manylir yn Atodiad A i'r
adroddiad,
(b) yn gofyn i
swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio ar y camau i'w cymryd mewn
perthynas â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau fel y
nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a phwyntiau pellach a godwyd gan aelodau
etholedig yn y Cabinet.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad ar ddatblygu Un Llwybr
Mynediad at Dai (SARTH) ar draws isranbarth Gogledd Ddwyrain Cymru a gofyn i’r
Cabinet roi cymeradwyaeth i weithredu’r Polisi Dyraniadau Cyffredin yn lleol. Roedd SARTH yn brosiect partneriaeth rhwng
landlordiaid cymdeithasol mawr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Roedd yr adroddiad yn manylu ar nod y
Polisi Dyraniadau Cyffredin (PDC) a’i weithrediad arfaethedig ar draws sefydliadau
partner.
Ymatebodd y swyddogion i nifer o wahanol senarios
a gyflwynwyd iddynt mewn perthynas ag anghenion tai a chadarnhawyd nad oedd
unrhyw gyswllt trawsffiniol rhwng awdurdodau lleol. Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau na fyddai pobl
leol, gan gynnwys y rhai a oedd ar y rhestr dai ar hyn o bryd, o dan anfantais
o ganlyniad i’r polisi newydd a bod cysylltiadau lleol yn nodwedd amlwg yn y
broses asesu. Cyfeiriwyd at y cyd-destun cyfreithiol a’r categorïau dewis rhesymol mewn
perthynas ag anghenion tai lle gellid gweithredu cysylltiadau lleol hefyd.
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones drosolwg o drafodaeth y
pwyllgor archwilio ar yr adroddiad gan dynnu sylw at nifer o bryderon a oedd
wedi eu manylu yn Atodiad C yr adroddiad. Adroddodd swyddogion ar y cynnydd wrth fynd i'r
afael â rhai o'r materion a godwyd, a nodwyd y dylid delio â phryderon mewn
perthynas â thai o ansawdd gwael a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig fel mater ar wahân. Cododd aelodau eraill faterion nad oeddynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r
PDC, gan gynnwys is-osod tai fforddiadwy; safonau llety gwarchod a diffyg
wardeiniaid mewn ardaloedd penodol, a thenantiaid nad oedd yn cynnal eiddo ac
yn mynd ati i atal gwelliannau i eiddo. I sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r holl
faterion, cytunwyd y byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor archwilio
ar hynny.
PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo'r Polisi
Dyraniadau Cyffredin ar gyfer Sir Ddinbych fel y manylwyd yn Atodiad A yr
adroddiad, a
(b) gofyn i
swyddogion adrodd yn ôl i’r pwyllgor archwilio ar y camau i'w cymryd mewn
perthynas â'r materion a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau fel y
nodir yn Atodiad C yr adroddiad a phwyntiau eraill a godwyd gan aelodau
etholedig yn y Cabinet.