Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 048997

Cyfarfod: 20/12/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)

5 ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 048997

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi yn amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif 048997.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid diddymu Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio Preifat gyrrwr rhif 048997 er mwyn diogelu’r cyhoedd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)           addasrwydd Gyrwyr Rhif 048997 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          gwnaed cwyn gan Swyddog Gorfodi Sifil ynglŷn ag ymddygiad y gyrrwr trwyddedig ar 10 Hydref 2013 ar ôl rhoi Rhybudd Talu Cosb iddo mewn perthynas â cherbyd hacni,

 

(iii)         roedd y Gyrrwr wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodol gan Heddlu Gogledd Cymru am Drosedd dan y Drefn Gyhoeddus yn ymwneud â’r digwyddiad (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi’u hatodi i’r adroddiad), a

 

(iv)         gwahoddwyd y Gyrrwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac ateb cwestiynau aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu (SGT) grynodeb o’r adroddiad a dywedodd nad oedd y Gyrrwr yn bresennol.  Roedd y mater wedi’i ohirio ers y cyfarfod diwethaf ar ôl derbyn gohebiaeth ysgrifenedig gan y Gyrrwr a'r cyfreithwyr a gyfarwyddwyd ganddo yn gofyn am ohiriad.  Roedd y cyfreithwyr wedi hysbysu ers hynny nad oeddynt bellach yn cynrychioli'r Gyrrwr dan sylw.  Gan nad oedd y Gyrrwr wedi rhoi eglurhad dros ei fethiant i fod yn bresennol, y ffaith fod y mater wedi’i ohirio yn barod ar gais y Gyrrwr, a gan ystyried natur ddifrifol yr achos penderfynodd yr aelodau i fwrw ymlaen â'r adolygiad yn absenoldeb y Gyrrwr.

 

Atgoffodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr aelodau am y sylwadau a wnaed yn y cyfarfod diwethaf.  Darllenodd lythyr a dderbyniwyd oddi wrth y Gyrwyr dan sylw lle’r oedd yn derbyn natur ddifrifol y digwyddiad ac yn dymuno rhoi’r mater yn nwylo cyfreithwyr.  Aeth ati i gyfleu ei ymddiheuriadau a’i edifeirwch dwys am y digwyddiad gan nodi fod cyfres o ddigwyddiadau anffodus wedi arwain at y diweddglo hwn.  Teimlai’r Gyrrwr fod y dystiolaeth a gyflwynwyd wedi’i rhagfarnu yn ei erbyn ac roedd eisiau paratoi amddiffyniad a darparu datganiadau tystion.

 

Atebodd y SGT gwestiynau gan aelodau gan nodi -

 

·        nid oedd manylion yr aelod o’r cyhoedd oedd yn rhan o'r digwyddiad wedi’u cymryd ar adeg y digwyddiad ac yn anffodus, nid oedd modd dod o hyd iddo

·        cadarnhaodd bod rhai mân anghysondebau rhwng y ddau ddatganiad a roddwyd gan y Swyddogion Gorfodaeth Sifil

·        Roedd Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn caniatáu i geir barcio am hyd at ddeng munud yn y lle parcio cyn rhoi Rhybudd Talu Cosb

·        nid oeddem yn gwybod a oedd y Gyrwyr wedi talu’r Hysbysiad Cosb Benodedig a roddwyd gan yr Heddlu ond roedd wedi nodi yn ei ddatganiad ei fod yn bwriadu gwneud hynny.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  048997 er diogelwch y cyhoedd.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Rhoddodd aelodau ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd, gan gynnwys sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol gan y Gyrrwr fel rhan o’i gais i ohirio’r eitem yn y cyfarfod diwethaf. Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch ymddygiad y Gyrwyr yn ystod y digwyddiad, ac yn arbennig ei agwedd ymosodol tuag at y Swyddogion Gorfodaeth Sifil ac aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol ynghyd â’r iaith frwnt a sarhaus a ddefnyddiwyd a oedd yn dangos problem gyda’i allu i reoli gwylltineb.  Cododd y digwyddiad hwn tra bod y Gyrrwr ar ddyletswydd ac mewn man cyhoeddus a dystiwyd ac a glywyd gan y cyhoedd a phlant efallai.  Nododd yr Aelodau fod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu rhoi Hysbysiad Cosb Benodol am Drosedd dan y Drefn Gyhoeddus a oedd yn cadarnhau i ryw raddau'r digwyddiad fel y disgrifir  ...  view the full Cofnodion text for item 5