Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

AWARD OF CONTRACT FOR RESIDUAL WASTE DISPOSAL

Cyfarfod: 17/12/2013 - Cabinet (Eitem 11)

11 DYFARNU CONTRACT AR GYFER GWAREDU GWASTRAFF GWEDDILLIOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi ynghlwm) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contractau ar gyfer casglu gwastraff gweddilliol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo rhoi dau gytundeb i’r contractwyr a enwyd fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contractau ar gyfer gwaredu gwastraff gweddilliol a gesglir.  Roedd gwybodaeth am y broses dendro, ynghyd â'r rhesymau y tu ôl i'r argymhellion i rannu'r gwaith rhwng dau gynigydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.  Roedd angen cymeradwyaeth y Cabinet gan fod y contract yn fwy nag £1m.

 

Trafododd y Cabinet fanylion y contract gyda swyddogion a eglurodd faterion penodol mewn ymateb i gwestiynau ar hynny.  Nododd yr aelodau fanteision dyfarnu dau gontract ar gyfer gwaredu gwastraff gweddilliol a -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu dau gontract i'r contractwyr a enwir fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm