Mater - cyfarfodydd
CONTRACT RENEWAL - MATRIX
Cyfarfod: 17/12/2013 - Cabinet (Eitem 8)
8 ADNEWYDDU CONTRACT – MATRICS PDF 70 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a
Pherfformiad (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet i adnewyddu
Contract Matrics ar gyfer Fframwaith MSTAR.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i adnewyddu'r Contract Matrics drwy fframwaith MSTAR.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith yr adroddiad
yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i adnewyddu'r contract presennol gyda Matrix
SCM, drwy fframwaith MSTAR, ar gyfer rheoli gweithwyr asiantaeth y Cyngor a
thrwy hynny’n gwella rheolaeth, diogelu a gwelededd, yn ogystal â sicrhau
arbedion effeithlonrwydd.
Roedd y contract yn rhan o gytundeb ar y cyd ag
awdurdodau lleol Sir y Fflint a Wrecsam. Oherwydd gwerth y contract roedd angen derbyn
cymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol yn
codi o'r argymhelliad oherwydd ei fod yn cynnwys adnewyddu contract presennol. Mewn ymateb i gwestiynau dywedodd y
Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau Dynol am y broses o fonitro'r contract a rhoddodd
fwy o fanylion am yr arbedion ers iddynt ddefnyddio Matrics SCM.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cytuno i adnewyddu'r Contract Matrics drwy fframwaith MSTAR.