Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 047689

Cyfarfod: 04/12/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 10)

10 ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047689

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i’r aelodau adolygu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 047689.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod rhybudd yn cael ei roi i Yrrwr Rhif 047689 ynglŷn â difrifoldeb y drosedd ac ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)           addasrwydd Gyrrwr Rhif 047689 i ddal trwyddedau i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          Roedd yr adroddiad wedi’i ohirio o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 18 Medi 2013 ar gais y Gyrrwr;

 

(iii)         Roedd adroddiad wedi’i dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn ag ymddygiad y gyrrwr trwyddedig ar 10 Mehefin 2013 lle y cyflwynwyd Cosb Benodedig Deddf Gorchymyn Cyhoeddus- roedd y digwyddiad wedi’i ddal ar TCC hefyd (roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau perthnasol ynghlwm â’r adroddiad), a

 

(iv)         gofynnwyd i’r Gyrrwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod ac yn cael ei gynrychioli gan ei gyflogwr.  Yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (HB) yr adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.

 

Eglurodd Cynrychiolydd y Gyrrwr bod y Gyrrwr wedi gweithio iddo am bedair blynedd yn flaenorol heb unrhyw ddigwyddiad ac roedd yn aelod gwerthfawr o’r tîm gyda chofnod teilwng.  Roedd wedi cyfaddef ei drosedd, ac wedi ymddiheuro am y digwyddiad ac wedi derbyn y Rhybudd Cosb Benodedig.  Darparodd nifer o eirdaon ysgrifenedig gan gwsmeriaid yn tystio cymeriad da'r Gyrrwr (a gylchredwyd yn y cyfarfod) a’i ganmol fel gyrrwr trwyddedig.  Apeliodd i’r Aelodau i beidio â diddymu ei drwydded ac amlygodd yr effaith andwyol ar gwsmeriaid cyfredol o ganlyniad i hynny.  Ymatebodd y Gyrrwr i'r cwestiynau a chyfeiriodd at broblemau yn ei fywyd personol yn ystod cyfnod y digwyddiad, roedd yn cydnabod nad oedd ei ymddygiad yn dderbyniol ac roedd y digwyddiad yn codi cywilydd arno ac fe ymddiheurodd.  Eglurodd amgylchiadau’r digwyddiad a’i rwystredigaeth ar y pryd.

 

Wrth wneud datganiad terfynol apeliodd Cynrychiolydd y Gyrrwr ar y pwyllgor i beidio â diddymu ei drwydded gan amlygu’r gwasanaeth gwerthfawr yr oedd yn ei ddarparu.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD cyflwyno rhybudd i Yrrwr Rhif  047689 ynglŷn â difrifoldeb y drosedd a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –

 

Yn ystod y trafodaethau, mynegwyd pryderon difrifol ynglŷn ag ymddygiad y Gyrrwr, wrth iddo weithio, lle y gallai’r cyhoedd ei weld a’i glywed, gan gynnwys plant.  Fodd bynnag roedd y pwyllgor yn derbyn fod y Gyrrwr wirioneddol yn edifarhau am ei weithredoedd ac wedi ystyried y geirdaon a ddarparwyd gan gwsmeriaid yn tystio ei gymeriad da a gwasanaeth gwerthfawr.  Er bod ymddygiad y Gyrrwr yn yr achos hwn yn amlwg yn annerbyniol cytunwyd y dylid cyflwyno rhybudd difrifol yn yr achos hwn.  Fodd bynnag byddai unrhyw droseddau pellach yn y dyfodol sy'n cael eu cyflwyno i'r pwyllgor yn cael eu trin yn ddifrifol.

 

Eglurwyd penderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros hynny i'r Gyrrwr  a’i Gynrychiolydd.