Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - DRIVER NO. 045613
Cyfarfod: 04/12/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 7)
7 ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 045613
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
wedi'i amgáu) yn gofyn i’r aelodau adolygu trwydded gyrrwr cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 045613.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 045613
er diogelwch y cyhoedd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar –
(i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 045613 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat;
(ii)
Gwybodaeth
a dderbyniwyd ar 24 Medi 2013, a chwyn dilynol a wnaed yn erbyn y Gyrrwr,
ynglŷn â rhoi sylwadau ymosodol, sarhaus ac anaddas ar wefan rhwydweithio
cymdeithasol ynglŷn â theithiwr oedd wedi talu i deithio, oedd hefyd yn
cynnwys datgelu manylion personol (roedd crynodeb o’r ffeithiau a datganiadau
gan dystion a dogfennau cysylltiol wedi’u hatodi i’r adroddiad), a
(iii)
gofynnwyd
i’r Gyrrwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac
ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny.
Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn
yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Gorfodi Trwyddedu (HB) yr adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.
Ymddiheurodd y Gyrrwr am
ei ymddygiad gan egluro ei fod yn credu bod y sylwadau yn breifat rhyngddo ef
a’i ffrindiau ac nad oedd wedi bwriadu tramgwyddo na’u gwneud yn gyhoeddus.
Holodd yr Aelodau’r gyrrwr ynglŷn â’i ymddygiad a’i agwedd tuag at y
teithiwr a holwyd sut y gwnaed y sylwadau’n gyhoeddus. Cyfeiriodd y
Gyrrwr at ei broblemau yn ei fywyd personol oedd yn effeithio ar gyflwr ei
feddwl ar y pryd a’i fwriad oedd cael ychydig o hwyl (roedd copi o lythyr
cyfreithiwr yn ddyddiedig 18 Tachwedd 2013 yn cadarnhau sefyllfa ei fywyd
personol wedi’i gylchredeg yn y cyfarfod). Tybiodd bod y
sylwadau wedi’u rhannu gan ei ffrindiau ac roedd wedi cael gwared â’r rhain a
heb ddefnyddio’r wefan ers hynny. Cadarnhaodd nad oedd yn
ymwybodol o ddifrifoldeb ei weithredoedd ar y pryd ac nad oedd yn meddwl yn
glir. Mewn ymateb i gwestiynau pellach cadarnhaodd y
Gyrrwr nad oedd wedi ymddiheuro i’r teithiwr hyd yn hyn gan nad oedd yn dymuno
mynd ati'n uniongyrchol na gwneud y sefyllfa'n waeth. Yn olaf
cadarnhaodd mai digwyddiad unigol ydoedd ac nad oedd yn cyfeirio at gwsmeriaid
ar y wefan fel arfer.
Yn ei ddatganiad
terfynol ymddiheurodd y Gyrrwr am y digwyddiad a mynegodd ei fod yn difaru ei
weithredoedd. Ychwanegodd y byddai’n ymddiheuro i'r teithiwr.
Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a -
PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 045613
er diogelwch y cyhoedd.
Y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –
Ystyriodd yr Aelodau'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a sylwadau’r Gyrrwr
i gefnogi’r achos a'i ymateb i'r cwestiynau. Mynegwyd pryderon difrifol ynglŷn ag ymddygiad y Gyrrwr oedd yn
torri ymddiriedaeth ac nid oedd y pwyllgor o’r farn ei fod yn Unigolyn cymwys
ac addas i dderbyn trwydded. Prif ystyriaeth y
Pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd ac oherwydd ffactorau tramgwyddedig bod (1) y
teithiwr yn unigolyn diamddiffyn, (2) roedd manylion personol wedi’u datgelu
oedd yn gallu dangos hunaniaeth y teithiwr ar y we gan ei rhoi mewn risg, a (3)
sylwadau amharchus ac agwedd y Gyrrwr o ran hynny, cytunwyd y dylid diddymu'r
drwydded ar unwaith er lles diogelwch y cyhoedd.
Eglurwyd penderfyniad a rhesymau’r pwyllgor i’r Gyrrwr a rhoddwyd
gwybodaeth iddo am ei hawl i apelio.
Ar y pwynt hwn (10.30am)
cafwyd egwyl.