Mater - cyfarfodydd
APPLICATION FOR A LICENCE TO DRIVE HACKNEY CARRIAGE AND PRIVATE HIRE VEHICLES - APPLICANT NO. 041213
Cyfarfod: 04/12/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 6)
6 CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 041213
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i
amgáu) yn gofyn i’r aelodau wneud penderfyniad ynglŷn â chais i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat, gan Ymgeisydd Rhif 041213.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (6/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (6/3)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 041213 yn cael ei roi.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar –
(i)
Cais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 041213
i ddal trwyddedau i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;
(ii)
Nad
oedd y swyddogion mewn sefyllfa i gymeradwyo’r cais yn dilyn gwybodaeth a
ddaeth i’r amlwg yn dilyn datgeliad llawn gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;
(iii)
Crynodeb
o euogfarnau a ddatgelwyd oedd yn ymwneud â nifer o droseddau am gyfnod o 1961
hyd at 2001 gan gynnwys digwyddiadau o anonestrwydd, trais a throseddau
traffig;
(iv)
Polisi
cyfredol y Cyngor o ran perthnasedd yr euogfarnau, a
(v)
gofynnwyd
i’r Ymgeisydd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i
gwestiynau aelodau ar hynny.
Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau cadarnhaodd ei fod wedi derbyn
yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Darparodd y
Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac egluro bod y mater wedi’i
gyflwyno i’r pwyllgor gael asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded gan
ystyried nifer a natur yr euogfarnau a ddatgelwyd.
Cyfarchodd yr Ymgeisydd
y pwyllgor ac eglurodd amgylchiadau nifer o’r euogfarnau gyda rhai ohonynt o’i
ieuenctid ac eraill oedd yn gysylltiedig â chyfnod anodd yn ei fywyd personol.
Fe bortreadodd ei hun fel unigolyn gonest, sy’n gweithio’n galed ac yn
mynychu’r eglwys a chadarnhaodd i’r pwyllgor ei fod yn unigolyn cyfrifol yn
awr. Eglurodd yr Ymgeisydd nifer o faterion o ran natur
ac amgylchiadau ei euogfarnau blaenorol mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau o
ran hynny. Yn ei ddatganiad terfynol gofynnodd yr Ymgeisydd
i’r pwyllgor edrych yn ffafriol ar ei gais a sicrhaodd ei ymddygiad yn y
dyfodol pe bai trwydded yn cael ei rhoi.
Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a -
PENDERFYNWYD
gwobrwyo
cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ar gyfer
ymgeisydd rhif 041213.
Y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu oedd –
Roedd y pwyllgor wedi
ystyried yr adroddiad yn ofalus a chais yr Ymgeisydd ac wedi mynegi pryder
ynglŷn â nifer y mathau o euogfarnau a ddatgelwyd gan y gwiriad o'i gofnod
troseddol. Fodd bynnag, roeddent wedi ystyried y ffaith bod y
troseddau wedi'u cyflawni gryn dipyn o amser yn ôl a derbyniodd yr aelodau'r
eglurhad ynglŷn â'r euogfarnau a gyflwynodd yr Ymgeisydd.
Roedd y pwyllgor o’r farn bod yr Ymgeisydd yn onest ynglŷn â'i
ymddygiad presennol ac yn y dyfodol ac o ganlyniad penderfynodd y pwyllgor ei
fod yn Unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded. Rhoddwyd rhybudd
i’r Ymgeisydd y byddai unrhyw drosedd arall yn y dyfodol yn cael ei drin yn
ddifrifol.
Eglurwyd penderfyniad a
rhesymau’r pwyllgor i’r Ymgeisydd.