Mater - cyfarfodydd
LICENSING COMMITTEE FORWARD WORK PROGRAMME 2013/13
Cyfarfod: 04/12/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 5)
5 RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2013/14 PDF 46 KB
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r aelodau ar faterion perthnasol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y cynnig i swyddogion gyflwyno rhaglen
gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig yn y Pwyllgor Trwyddedu nesaf ym mis Mawrth yn
cael ei gymeradwyo.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
Trwyddedu.
Oherwydd
nifer o resymau amrywiol fel y manylwyd yn yr adroddiad nid oedd y swyddogion
wedi gallu bodloni gofynion y rhaglen waith gyfredol a chynigwyd cyflwyno
rhaglen gwaith i’r dyfodol diwygiedig yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor ym mis
Mawrth.
Eglurodd y Cynghorydd Bill Cowie fod
materion trwyddedu wedi’u trafod yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Craffu
Perfformiad a'i fod wedi holi am y posibilrwydd o staff ychwanegol oherwydd y
pwysau gwaith a nodwyd. Nododd yr Aelodau'r rhesymau dros y
llithriad yn y rhaglen waith a bod angen adolygu blaenoriaethau trwyddedu gan
ystyried materion eraill sy’n cymryd amser y swyddogion. O ganlyniad -
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y swyddogion
yn cyflwyno Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddiwygiedig yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mawrth.