Mater - cyfarfodydd
BUSINESS RATES WRITE OFFS
Cyfarfod: 26/11/2013 - Cabinet (Eitem 11)
11 DILEU TRETHI BUSNES
Rhoi ystyriaeth i
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol
dros Gyllid ac Asedau, (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
ddileu’r Trethi Busnes nad oes modd eu hadennill fel y manylir yn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (11/2)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cymeradwyo
dileu Trethi Busnes na ellir eu hadfer fel y nodir yn Nhabl 1 yr adroddiad, a
(b) bod y Cyngor yn
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi ei bryderon am yr arferion a
fabwysiadir gan gwmnïau penodol i osgoi talu credydwyr a gofyn iddynt ymchwilio
i'r gofynion deddfwriaethol i gau'r bylchau hynny yn y ddeddfwriaeth.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill Mr.
Rod Urquhart a oedd newydd gael ei benodi’n Bennaeth Refeniwiau a Budd-daliadau
(PRB). Cyflwynodd yntau adroddiad cyfrinachol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddileu Ardrethi Busnes anadferadwy ar gyfer nifer o gwmnïau lle na
fyddai camau i adfer dyledion yn parhau am eu bod naill ai wedi cael eu dirwyn
i ben neu eu diddymu. Roedd hanes manwl mewn perthynas â phob cwmni wedi cael
ei gynnwys o fewn yr adroddiad.
Trafododd y Cabinet amgylchiadau’r cwmnïau dan
sylw gyda’r PRB ac fe fynegwyd pryderon ynghylch arferion a ddefnyddir gan
gwmnïau arbennig i osgoi talu i gredydwyr. Ymhelaethodd y PRB ar yr agweddau
cyfreithiol a’r camau adfer dyledion a oedd eisoes wedi cael eu cymryd ac fe
amlygodd newidiadau diweddar i weithredu’n gynharach yn y broses adennill
dyledion os oes angen.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at
adroddiad diweddar gan yr Ombwdsmon ar ordalu ardrethi busnes. Hysbysodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod materion o’r fath yn
cael eu gwneud yn hysbys i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a chytunodd i
ymchwilio i’r achos penodol yr oedd y Cynghorydd Davies yn cyfeirio ato.
PENDERFYNWYD gan y Cabinet –
(a) y byddai’n cymeradwyo’r cynnig i ddileu’r
Ardrethi Busnes anadferadwy a nodir yn Nhabl 1 yn yr adroddiad, ac
(b) y dylai’r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru i fynegi ei bryderon ynghylch arferion a fabwysiedir gan gwmnïau arbennig
i osgoi talu i gredydwyr a gofyn iddi ymchwilio i’r gofynion deddfwriaethol i
gau’r diangfeydd hynny.