Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

DENBIGHSHIRE SUPPORTING PEOPLE LOCAL COMMISSIONING PLAN 2014 - 15 & 2015 - 16

Cyfarfod: 26/11/2013 - Cabinet (Eitem 6)

6 CYNLLUN COMISIYNU LLEOL SIR DDINBYCH CEFNOGI POBL 2014-15 a 2015-16 pdf eicon PDF 94 KB

Rhoi ystyriaeth i adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i Gynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2014-15 a 2015-16 er mwyn ei gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru ac i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl Lleol ar gyfer 2014/15 a 2015/16 a’i gyflwyno i Bwyllgor Gwaith Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feely yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cynllun Comisiynu Lleol (CCLl) Cefnogi Pobl 2014/15 a 2015/16 cyn ei gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau wedi ystyried a chefnogi’r CCLl.

 

Roedd Cefnogi Pobl (CP) yn fframwaith polisi a ffrwd cyllido a oedd yn rhoi cymorth sy’n gysylltiedig â thai i bobl agored i niwed. Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles sylw aelodau at y prif flaenoriaethau strategol a chamau gweithredu arfaethedig a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â goblygiadau o ran cyllid sy’n deillio o’r fformwla cyllido newydd a thoriadau cyllido cyffredinol. Roedd y cynigion ar gyfer toriadau wedi cael eu cyflawni mewn ffordd strategol ac roedd buddsoddiad hefyd ym Mhrosiect Ieuenctid Dinbych a oedd wedi cael ei adnabod fel maes lle mae angen sylweddol yn bodoli.

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl ar gyfer 2014/15 a 2015/16 a’r cynnig i’w gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru.