Mater - cyfarfodydd
PROPOSED JOINT COMMITTEE FOR THE CLWYDIAN RANGE AND DEE VALLEY AREA OF OUTSTANDING NATURAL BEAUTY (AONB)
Cyfarfod: 26/11/2013 - Cabinet (Eitem 5)
Rhoi ystyriaeth i
adroddiad gan y Cynghorydd Huw Jones, yr Aelod Arweiniol dros Dwristiaeth,
Hamdden a Ieuenctid (copi'n amgaeedig) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i sefydlu
Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Dogfennau ychwanegol:
- AONB REPORT - APP 1, Eitem 5 PDF 2 MB
- AONB REPORT - APP 2, Eitem 5 PDF 455 KB
- AONB REPORT - APP 3, Eitem 5 PDF 94 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cefnogi
ffurfio Cydbwyllgor ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy,
(b) yn cytuno fod yr
Awdurdod yn llofnodi Cytundeb Cyfreithiol gyda Wrecsam a Sir y Fflint sy’n cael
ei baratoi gan yr adran gyfreithiol, yr adran gyllid a’r swyddog AHNE.
(c) bod y Cydbwyllgor a’r
Bartneriaeth AHNE yn sicrhau y caiff aelodau lleol sydd â wardiau'n gyfan gwbl
neu'n rhannol o fewn ardal yr AHNE yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y
materion a ystyrir gan y Cydbwyllgor a’r Bartneriaeth AHNE.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Jones yr adroddiad a
oedd yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i ffurfio Cydbwyllgor (CB) ar gyfer AHNE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a oedd bellach yn ymestyn ar draws Wrecsam, Sir
y Fflint a Sir Ddinbych. Roedd Pwyllgor presennol yr AHNE wedi argymell CB i
gryfhau perthnasoedd ag awdurdodau lleol a sicrhau llywodraethu da. Roedd
Arweinwyr, Prif Weithredwyr a Swyddogion Arweiniol o’r tri awdurdod lleol wedi
bod yn gefnogol i’r dull.
Fe ymatebodd y Prif Swyddog Cefn Gwlad (PSCG) i
gwestiynau’r aelodau, gan ymhelaethu ar y gofynion ar gyfer creu CB ynghyd â’r
cynigion o ran aelodaeth, pwerau a rolau, cymorth gweithredol a’r manteision y
byddai dull o’r fath yn eu dwyn. Roedd y Cabinet yn gefnogol i ddull
partneriaeth ond yn ceisio sicrwydd ynghylch y rhan y byddai aelodau lleol yn
ei chwarae yn y broses ynghyd ag atebolrwydd lleol. Eglurodd y PSCG y byddai
aelodaeth y CB yn cael ei phennu gan bob awdurdod unigol ac y byddai’n cael ei
hategu gan Bartneriaeth a Fforwm Blynyddol ar gyfer yr AHNE a fyddai’n cynnwys
aelodau lleol. Byddai’r CB hefyd yn adrodd yn ôl wrth
weithrediaethau/pwyllgorau’r awdurdodau lleol. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr
Arweinydd amlygodd y PSCG yr effaith a gwerth economaidd posib i’r ardal o
ganlyniad i’r AHNE ehangedig, yn benodol o ran twristiaeth a chyllid grant a
fyddai’n arwain at ddatblygu prosiectau amrywiol.
PENDERFYNWYD gan y Cabinet –
(a) ei fod yn cefnogi’r syniad o ffurfio Cydbwyllgor
ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy;
(b) ei fod yn cytuno y dylai’r Awdurdod
lofnodi gyda Wrecsam a Sir y Fflint y Cytundeb Cyfreithiol a baratowyd gan y
gwasanaethau cyfreithiol, ariannol a Swyddog yr AHNE fel y nodir yn yr atodiad wrth
yr adroddiad, ac
(c) y dylai’r Cydbwyllgor a Phartneriaeth yr
AHNE sicrhau bod aelodau lleol y mae eu wardiau’n gyfan gwbl neu'n rhannol o
fewn ardal yr AHNE yn cael diweddariad ac yn cael eu hysbysu’n rheolaidd
ynghylch y busnes a fydd yn cael ei ystyried gan y Cydbwyllgor a Phartneriaeth
yr AHNE.