Mater - cyfarfodydd
Mater - cyfarfodydd
Materion Brys
Cyfarfod: 26/11/2013 - Cabinet (Eitem 3)
3 MATERION BRYS
Rhybudd o
faterion y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo setlo hawliadau tâl cyfartal presennol y Cyngor ar y sail a nodwyd
yn yr adroddiad fel y cytunwyd mewn egwyddor gyda Chyfreithwyr yr Hawlwyr.
Cofnodion:
Yn unol â
gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, datganodd yr Arweinydd ei
fod yn bwriadu cynnwys ar gyfer trafodaeth y mater cyfrinachol canlynol yr oedd
gofyn rhoi sylw iddo ar frys – DIWEDDARIAD AR IAWNDAL AM GYFLOG CYFARTAL.
Cytunwyd y byddai’r mater yn cael ei drafod yn ddiweddarach yn y cyfarfod dan
Ran II yr agenda.