Mater - cyfarfodydd
REVIEW OF HOUSE TO HOUSE AND STREET COLLECTION POLICIES
Cyfarfod: 18/09/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 10)
10 ADOLYGU POLISÏAU CASGLU O DDRWS I DDRWS A CHASGLU AR Y STRYD PDF 67 KB
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) sy'n
gofyn i’r aelodau adolygu’r polisïau ar gyfer rhoi a monitro trwyddedau Casglu
ar y Stryd a Chasgliadau o Ddrws i Ddrws.
Dogfennau ychwanegol:
- REVIEW OF CHARITY COLLECTIONS - APP A, Eitem 10 PDF 131 KB
- REVIEW OF CHARITY COLLECTIONS - APP A1, Eitem 10 PDF 135 KB
- REVIEW OF CHARITY COLLECTIONS - APP B, Eitem 10 PDF 4 MB
- REVIEW OF CHARITY COLLECTIONS - APP C, Eitem 10 PDF 40 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
cefnogi ac argymell bod y
Cyngor Sir yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r polisïau drafft ar gyfer Casgliadau
o Ddrws i Ddrws (gwelwch Atodiad A i'r adroddiad) a Chasgliadau ar y Stryd
(gwelwch Atodiad C i’r adroddiad).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ)
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)
yn gofyn i aelodau adolygu’r polisïau drafft ar gyfer dyrannu a monitor
trwyddedau Casglu o Ddrws i Ddrws a Chasglu ar y Stryd (amgaewyd fel Atodiad A
yr adroddiad) yn dilyn yr ymarferiad ymgynghori.
Roedd y Pwyllgor Trwyddedu ar 12 Medi
2012 wedi cytuno i gynnal ymarferiad ymgynghori ar yr adolygiad o bolisïau ar
gyfer casgliadau elusennol. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu’r broses ymgynghori ac yn rhoi manylion y sylwadau a
dderbyniwyd yn ymwneud â Chasgliadau ar y Stryd (ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau
yn ymwneud â Chasgliadau o Ddrws i Ddrws) a’r diwygiadau a argymhellwyd mewn
ymateb iddynt. Gofynnwyd i Aelodau ystyried y
polisïau drafft yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad.
Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r
polisïau drafft ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac roeddent yn fodlon fod
yr ymateb i’r sylwadau yn briodol.
PENDERFYNWYD cefnogi ac
argymell bod y Cyngor Sir yn cymeradwyo a mabwysiadu’r polisïau drafft ar gyfer
Casgliadau o Ddrws i Ddrws a Chasgliadau ar y Stryd a amlinellir yn Atodiad A
yr adroddiad a’r newidiadau bwriedig a fanylir yn Atodiad C yr adroddiad.