Mater - cyfarfodydd
LICENSING ACT 2003 - LICENSING AUTHORITY AS RESPONSIBLE AUTHORITY
Cyfarfod: 18/09/2013 - Pwyllgor Trwyddedu (Eitem 8)
8 DEDDF TRWYDDEDU 2003 – AWDURDOD TRWYDDEDU FEL AWDURDOD CYFRIFOL PDF 80 KB
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) sy’n
darparu gwybodaeth i’r aelodau ynglŷn â’r trefniadau i alluogi’r Awdurdod
Trwyddedu i ymgymryd â’i ddyletswyddau fel Awdurdod Cyfrifol ac yn gofyn am
gymeradwyo dirprwyo swyddogaeth yr Awdurdod Cyfrifol o ran Trwyddedu i’r Uwch
Swyddog Gorfodi Cymunedol.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y byddai’r swyddogaeth hon yn cael ei
dirprwyo i’r uwch Swyddog Gorfodi Cymunedol ar ran y Pwyllgor Trwyddedu.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ)
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)
yn rhoi gwybod i aelodau am y trefniadau a wnaed i alluogi’r Awdurdod Lleol i
gyflawni ei swyddogaethau fel Awdurdod Cyfrifol.
Clywodd Aelodau am y newid diweddar yn
y ddeddfwriaeth a oedd yn rhoi’r grym i awdurdodau gyflawni’r un swyddogaethau
ag Awdurdodau Cyfrifol eraill dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Amlygwyd pwysigrwydd
cyflawni gwahaniad cyfrifoldebau o fewn yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau
tegwch trefniadol a dileu gwrthdaro buddiannau a rhoddwyd manylion am y rolau
a’r cyfrifoldebau presennol. Er mwyn sicrhau
gwahaniad cyfrifoldebau priodol yn sgil y grymoedd newydd, argymhellwyd y dylid
neilltuo swyddogaeth yr Awdurdod Cyfrifol am Drwyddedu i’r Uwch Swyddog Gorfodi
Cymunedol.
PENDERFYNWYD y
byddai swyddogaeth yr Awdurdod Cyfrifol ar ran y Pwyllgor Trwyddedu yn cael ei
dirprwyo i’r Uwch Swyddog Gorfodi Cymunedol.