Mater - cyfarfodydd
THREE COUNTIES PROCUREMENT SERVICE
Cyfarfod: 24/09/2013 - Cabinet (Eitem 10)
10 DIWEDDARIAD TRAWSNEWID CAFFAEL PDF 124 KB
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar amryw o gynlluniau caffael sy’n cael eu cynnal fel rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Caffael ehangach
Dogfennau ychwanegol:
- Procure App 1, Eitem 10 PDF 62 KB
- Procure App 2, Eitem 10 PDF 78 KB
- Procure App 3, Eitem 10 PDF 47 KB
- Procure App 4, Eitem 10 PDF 53 KB
- Procure App 5, Eitem 10 PDF 219 KB
- Procure App 6, Eitem 10 PDF 117 KB
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cyng. Julian
Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n rhoi’r diweddaraf
ar y mentrau caffael amrywiol sy’n cael eu cynnal fel rhan o Raglen Trawsnewid
Caffael ehangach, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau â thri
phrosiect Caffael fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
- bod y Cabinet yn:-
(a)
rhoi cymeradwyaeth
i Sir Ddinbych fod yn aelod swyddogol o Gonsortiwm Prynu Cymru am y 3 blynedd
nesaf tan 31 Mawrth 2016, gyda ffi gyfrannu flynyddol o £13,500
(b)
cymeradwyo
datblygu Achos Busnes ar gyfer creu gwasanaeth ar y cyd drwy gyfuno Unedau
Caffael Strategol Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint, a
(c)
cymeradwyo
datblygu achos busnes ar gyfer y Gwasanaeth Caffael Tair Sir a fyddai i
ddechrau’n cynnwys Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Gwynedd
yn seiliedig ar Strwythur Rheoli Categori
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyng. Julian
Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n rhoi’r diweddaraf
ar y mentrau caffael amrywiol sy’n cael eu cynnal fel rhan o Raglen Trawsnewid
Caffael ehangach, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i barhau â thri
phrosiect Caffael fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Esboniodd y
Cynghorydd Thompson-Hill bod caffael wedi’i ystyried fel yr ateb i nifer o
faterion a nodwyd yn yr adroddiad.
Mae’r galwadau hyn, sy'n
cystadlu, wedi’u gosod yn erbyn pwysau fel canolbwyntio ar leihau swyddogaethau
‘swyddfa gefn’ sefydliadau a grŵp cymharol fychan o staff yn genedlaethol. Mae’r
cynigion sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn ategol ac mae Atodiad 6 yn nodi
sut y byddant yn cyd-fynd â’i gilydd.
Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi
arweiniad drwy’r newidiadau sydd i ddod ac yn nodi sut y dylai’r Cyngor ymateb
iddynt. Mae’r cynlluniau allweddol presennol yn cynnwys:-
·
Creu Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol newydd, sydd i’w weithredu erbyn Tachwedd 2013 i ymateb
i’r 20% o wariant cyffredin ac ailadroddus ar draws sector cyhoeddus Cymru.
·
Diwedd
Partneriaeth Caffael Gogledd Cymru ym mis Mehefin 2013 a’r potensial o’i
ddisodli drwy ymuno â Chonsortiwm Prynu Cymru.
·
Sicrhau
yr ymgorfforir Datganiad Polisi Caffael Cymru a lansiwyd gan y Gweinidog Cyllid
ac Arweinydd y Tŷ, er mwyn hyrwyddo Caffael sy’n gyfeillgar i Fentrau Bach
a Chanolig yn ogystal â gwireddu Budd Cymunedol
·
Cyflwyno
a gwneud rhagor o ddefnydd o atebion e-gaffael
·
Ymgorffori
gweithgareddau caffael sy’n deillio o Strategaeth Uchelgais Economaidd a
Chymunedol CSDd
Rhagwelwyd y byddai Strategaeth Gaffael newydd y Cyngor wedi’i chwblhau ym
mis Hydref 2013. Er mwyn cynnwys ac adlewyrchu’r cynlluniau caffael newydd, mae
Rheolau cyfredol y Weithdrefn Gontractau wedi’u hadolygu a bydd set drafft o
Reolau yn cael eu dosbarthu ar gyfer ymgynghoriad yn y Maes Gwasanaeth a’u
cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo.
Amlygodd Adroddiad Archwilio Mewnol ar Gaffael Gwasanaethau Adeiladu nifer
o welliannau sydd eu hangen ynglŷn â’r ffordd y cyflawnir caffael gwaith
adeiladu. Bydd datblygiad y prosiectau yn yr adroddiad hwn
yn datrys nifer o’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad Archwilio Mewnol.
Wedi i
Bartneriaeth Caffael Gogledd Cymru (PCGC) gau’n ddiweddar, derbyniwyd llythyr
gan Fwrdd Rheoli CPC, Atodiad 1, mewn cydweithrediad â CLlLC yn gwahodd
Cynghorau Gogledd Cymru i ystyried ymuno â CPC er mwyn creu Consortiwm Caffael
Llywodraeth Leol Cymru yn cynnwys pob un o’r 22 o Gynghorau Cymru. Dros
5 mlynedd, gwireddodd PCGC arbedion effeithlonrwydd ariannol o £2.4m ar draws 6
Chyngor Gogledd Cymru, gan dynnu sylw at fanteision caffael ar y cyd. Drwy
ymuno â CPC, byddai Sir Ddinbych yn defnyddio datrysiad caffael tebyg, ond ar
sail genedlaethol, ond byddai'r goblygiadau o ran cost ar gyfer ymuno fel
Cyngor unigol yn cynnwys tanysgrifiad aelodaeth flynyddol o £13,500 o’i gymharu
â £44,000 gyda PCGC. Byddai Sir Ddinbych hefyd yn ymrwymo i arwain
ar nifer penodol o gontractau. Mae manteision ariannol a rhai nad ydynt
yn ariannol o ymaelodi â CPC wedi’u nodi yn Atodiad 2. Mae’r dewis o ymuno â’r
CPC wrthi’n cael ei ystyried yng Nghynghorau Gogledd Cymru. Mae
CLlLC hefyd yn ystyried dod â CPC o fewn ei fframwaith llywodraethu i’w alluogi
i fod yn Wasanaeth Caffael Llywodraeth Leol i Gymru gyfan.
Comisiynodd Bwrdd Rheoli PCGC CAPITA i gynhyrchu Achos Busnes ar Gaffael Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru. Ar ôl ystyried yr Achos Busnes, penderfynwyd peidio symud ymlaen ymhellach gyda’r chwe Awdurdod Lleol. Er mwyn symud Trawsnewid Caffael yn ei flaen ar sail isranbarthol, mae dau brosiect unigol wedi deillio o adroddiad gwreiddiol Capita. Roedd y ddau brosiect, fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar gais ar y cyd am arian gan Gronfa Cydweithio Rhanbarthol Llywodraeth ... view the full Cofnodion text for item 10