Mater - cyfarfodydd
NORTH EAST WALES SENSORY SUPPORT SERVICES
Cyfarfod: 24/09/2013 - Cabinet (Eitem 9)
9 GWASANAETHAU CEFNOGI SYNHWYRAU GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU PDF 74 KB
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams (copi wedi’i amgáu) sy’n manylu ar ffurfio Gwasanaeth Cefnogi Synhwyrol Gogledd Ddwyrain Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint
Dogfennau ychwanegol:
- Sensory App 1, Eitem 9 PDF 594 KB
- Sensory App 2, Eitem 9 PDF 595 KB
- Sensory App 3, Eitem 9 PDF 546 KB
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol,
sy’n manylu ar ffurfio Gwasanaeth Cefnogi Synhwyrol Gogledd Ddwyrain Cymru,
mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD
- bod y Cabinet yn:-
(a) cydnabod y camau gweithredu cadarnhaol a gymerwyd i wella’r gwasanaeth sydd
ar gael i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu synhwyrau ar draws Sir y Fflint,
Wrecsam, a Sir Ddinbych.
(b) cymeradwyo’r penderfyniad i sefydlu gwasanaeth isranbarthol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyng. Eryl Williams yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol,
sy’n manylu ar ffurfio Gwasanaeth Cefnogi Synhwyrau Gogledd Ddwyrain Cymru,
mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint.
Roedd yr
adroddiad yn amlinellu’r cynnydd a wnaed i greu gwasanaeth synhwyrau
isranbarthol a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y penderfyniad i symud at fodel
darparu partneriaeth. Mewn ymateb i’r gyfarwyddeb gan LlC i gynyddu cydweithio
a gweithio mewn consortiwm, nodwyd ffurfio Gwasanaeth Synhwyrau rhanbarthol fel
blaenoriaeth gan Swyddogion Cynhwysiant ar draws Gogledd Cymru. Mae gwasanaethau nam ar y
synhwyrau yn fach ac yn arbenigol iawn mewn llawer o awdurdodau. Byddai gwaith partneriaeth yn
galluogi gwell gwytnwch ac effeithlonrwydd trwy wella graddfa a galluogi
defnyddwyr gwasanaeth i fanteisio drwy sicrhau bod amrywiaeth fwy o staff
arbenigol ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd
archwilio gyda’r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru, aeth swyddogion o
Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint ymlaen i gwmpasu gwasanaeth i gynnwys
Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae achos busnes llawn, Atodiad 1, wedi’i ddatblygu gan y
tri Awdurdod Lleol a Chytundeb Partneriaeth, Atodiad 2, wedi’i greu yn ogystal
â dogfennau cysylltiedig. Datblygwyd model gwasanaeth llawn i’w ddarparu i gyd-fynd
â’r dyraniad cyllideb presennol ar gyfer darpariaeth synhwyrol gan y tri ALl.
Roedd y Cytundeb Partneriaeth yn amlinellu’r trefniadau
ariannol rhwng Sir y Fflint, yr Awdurdod Cynnal, sef Wrecsam, a Sir Ddinbych
sy’n nodi’r manylion ynglŷn â darpariaeth a phrosesau. Nododd y Cytundeb
gyfrifoldebau ariannol yr holl bartneriaid mewn perthynas â staff ac asedau pe
bai’r Bartneriaeth yn dod i ben.
Cynhelir ymgynghoriad gyda staff gwasanaeth a’u
cynrychiolwyr undeb. Mae’r Swyddogion wedi cysylltu â gweithwyr proffesiynol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r sector gwirfoddol ynglŷn â’r
newidiadau arfaethedig mewn darpariaeth gwasanaeth. Cwblhawyd Asesiad o Effaith ar
Gydraddoldeb, Atodiad 3. Credwyd y bydd datblygiad isranbarthol yn darparu
manteision cadarnhaol i blant a phobl ifanc gyda nam ar y synhwyrau. Bydd y model gwasanaeth yn
arwain at wasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon y gellir ei ddarparu o fewn y
gyllideb gyfyngedig. Y risg pennaf a nodwyd yw’r anallu i ddarparu’r ystod o wasanaethau sydd eu
hangen gan blant a phobl ifanc, a chynaladwyedd y gwasanaeth i’r dyfodol o fewn
y model presennol.
PENDERFYNWYD
- bod y Cabinet yn:-
(a)
cydnabod y camau gweithredu
cadarnhaol a gymerwyd i wella’r gwasanaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc
sydd â nam ar eu synhwyrau ar draws Sir y Fflint, Wrecsam, a Sir Ddinbych, a
(b)
chymeradwyo’r penderfyniad i
sefydlu gwasanaeth isranbarthol.