Mater - cyfarfodydd
CORWEN FLOOD RISK MANAGEMENT SCHEME - AWARD OF CONTRACT
Cyfarfod: 30/07/2013 - Cabinet (Eitem 14)
14 CYNLLUN RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD CORWEN - GWOBRWYO CONTRACT
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus,
(cylchredwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo gwobrwyo’r contract
ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Corwen.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo rhoi cytundeb i’r contractwr a enwyd fel y nodwyd ym
mharagraff 3 yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod
Arweiniol dros Dir y Cyhoedd yr adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y
Cabinet i ddyfarnu contract i Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Corwen. Cafodd
gwybodaeth gefndirol ar y cynllun rheoli peryglon a’r broses dendro ei chynnwys
yn yr adroddiad.
Cymerodd y Cynghorydd Huw Jones y cyfle i ddiolch
i’r Uwch Beiriannydd – Rheoli Perygl Llifogydd am y gwaith a wnaeth mewn
perthynas â’r cynllun a werthfawrogwyd hefyd gan drigolion Corwen. Roedd y
Cynghorydd Jones yn gobeithio y byddai’r cynllun yn cael ei gwblhau cyn gynted
â phosibl.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cymeradwyo dyfarnu contract i’r contractwr a enwyd ym
mharagraff 3 yr adroddiad.
Clodd y cyfarfod am 1.05 p.m.