Mater - cyfarfodydd
THE REDEVELOPMENT OF 21 - 24 WEST PARADE, RHYL
Cyfarfod: 30/07/2013 - Cabinet (Eitem 13)
13 AILDDATBLYGU 21 -24 RHODFA’R GORLLEWIN, Y RHYL
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid
ac Asedau, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r telerau
terfynol gyda’r Partner Datblygu i ddatblygu eiddo yn Rhodfa’r Gorllewin, y
Rhyl.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (13/2)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (13/3)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (13/4)
- Restricted enclosure 6 , View reasons restricted (13/5)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn cymeradwyo cadarnhau’r telerau y cytunwyd arnynt gyda’r Partner
Datblygu
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros
Gyllid ac Asedau’r adroddiad cyfrinachol oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet
i’r telerau terfynol a gytunwyd gyda’r Partner Datblygu i ddatblygu eiddo ar
Rodfa’r Gorllewin, y Rhyl. Darparwyd manylion y Cytundeb oedd yn amlinellu’r
cynigion i ddatblygu’r eiddo ynghyd â’r telerau ariannol a’r risgiau
cysylltiedig.
Gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams fod y bwrdd i ddiogelu’r safle’n
cael ei ddefnyddio fel arf hyrwyddo i greu delwedd brydferth o’r datblygiad.
Achubodd yr Arweinydd ar y cyfle i longyfarch y
Pennaeth Cyllid ac Asedau ar ei weledigaeth a arweiniodd at ailddatblygiad
llwyddiannus yr ardal.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cymeradwyo cadarnhau’r telerau a gytunwyd gyda’r ‘Partner
Datblygu’ Chesham Estates i ddatblygu’r eiddo 21 – 24 Rhodfa’r Gorllewin (a
adwaenwyd fel The Honey Club yn y gorffennol), y Rhyl ac eiddo ychwanegol sy’n
cynnwys y modurdy i gefn 27-28 Rhodfa’r Gorllewin (eiddo CSDd) a 25 – 26
Rhodfa’r Gorllewin (yn amodol ar Orchymyn Prynu Gorfodol). Mae cynllun ynghlwm
fel Atodiad B i’r adroddiad sy’n dangos yr ardal wedi’i llinellu’n goch.