Mater - cyfarfodydd
ADRODDIAD CYLLID
Cyfarfod: 30/07/2013 - Cabinet (Eitem 10)
10 ADRODDIAD CYLLID PDF 244 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi’n amgaeedig) yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.
Dogfennau ychwanegol:
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 10 PDF 24 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 10 PDF 22 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 10 PDF 20 KB
- FINANCE REPORT - APP 4, Eitem 10 PDF 329 KB
- FINANCE REPORT - APP 5, Eitem 10 PDF 32 KB
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD -
(a) nodi’r sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb y cytunwyd
arni.
(b) cymeradwyo
argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y nodwyd yn Atodiad 5 mewn
perthynas â gwaith dylunio ar gyfer Ysgol Glan Clwyd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd yn erbyn strategaeth y gyllideb gytûn.
Darparodd grynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor fel a ganlyn –
·
rhagwelwyd
tanwariant net o £45 mil ar y gyllideb refeniw ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a
chorfforaethol
·
rhagwelwyd
symudiad cadarnhaol i ysgolion o £352 mil gyda chyllidebau ysgol heb eu
dirprwyo’n rhagweld tanwariant o £150 mil
·
cyflawnwyd
£1.267m (41%) o’r arbedion y cytunwyd hyd yma
·
amlygwyd
amrywiadau allweddol o dargedau cyllidebau neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol, a
·
diweddariad
cyffredinol ar y Cynllun Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Tynnwyd sylw’r aelodau hefyd at argymhelliad y Grŵp Buddsoddi
Strategol (manylion yn Atodiad 5 yr adroddiad) mewn perthynas â’r gwaith
dylunio ar gyfer Ysgol Glan Clwyd. Croesawodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau’r
dull rhagweithiol a gymerwyd gan y Cyngor o ran Rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif a oedd yn dechrau cynhyrchu canlyniadau. Roedd Llywodraeth Cymru newydd
sicrhau bod cyllid ar gael i gyflymu’r cynnig yng Nglan Clwyd.
PENDERFYNWYD bod –
(a) y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a chynnydd
yn erbyn y strategaeth gyllideb gytûn yn cael eu nodi, a bod
(b) argymhelliad y Grŵp Buddsoddi
Strategol fel y manylir yn Atodiad 5 mewn perthynas â’r gwaith dylunio ar gyfer
Ysgol Glan Clwyd yn cael ei gymeradwyo.