Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

THE FORMER NORTH WALES HOSPITAL, DENBIGH

Cyfarfod: 30/07/2013 - Cabinet (Eitem 12)

12 CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH pdf eicon PDF 109 KB

Ystyried adroddiad, ynghyd â’r atodiadau cyfrinachol, gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus, (copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet gefnogi gorchymyn prynu gorfodol a gwneud cynnig i brynu'r safle.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cefnogi cyflwyno Gorchymyn Prynu Gorfodol ac yn argymell bod y Pwyllgor Cynllunio hefyd yn awdurdodi hyn.

 

(b)       yn rhoi cefnogaeth i Swyddogion wneud cynnig i brynu’r safle yn seiliedig ar ymateb y Prisiwr Annibynnol a ffactorau pwysig eraill.

 

 (c)       y dylid, cyn prynu’r safle’n ffurfiol, drwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu drwy drafodaethau, dderbyn awdurdodiad pellach gan y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod Arweiniol dros Dir y Cyhoedd yr adroddiad gan roi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd prosiect cyn Ysbyty Gogledd Cymru a cheisio cefnogaeth y Cabinet i weini Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer y safle a gwneud cynnig i’w brynu.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth gefndirol a arweiniodd at y sefyllfa bresennol ac amlinellodd y risgiau cyffredinol oedd yn gysylltiedig â phroses y Gorchymyn Prynu Gorfodol. O gofio cymhlethdodau’r safle, argymhellwyd petai’r Cyngor yn llwyddiannus gyda’r Gorchymyn Prynu Gorfodol neu os byddai’r cynnig i brynu’r safle’n cael ei dderbyn, byddai awdurdodiad pellach y Cabinet yn cael ei geisio cyn cymryd perchnogaeth ffurfiol o’r safle.

 

Amlygodd yr Arweinydd gyfeiriadau’r cyfryngau at leoliad y carchar newydd yng Ngogledd Cymru. Eglurodd fod y safle hwn a safle Green Gate Llanelwy  yn anaddas oherwydd y maint a’r cyfyngiadau cynllunio.

 

Cododd yr aelodau gwestiynau mewn perthynas â’r goblygiadau ariannol a’r bwriadau ar gyfer yr adeilad i’r dyfodol a rhoddwyd yr ymatebon canlynol -

 

·         byddai’r prosiect yn arwain at ddim cost i’r awdurdod lleol na threthdalwyr y cyngor

·         roeddent yn aros am ganlyniad y tair apêl cynllunio oedd yn weddill cyn cymryd camau i geisio adennill taliad mewn perthynas â’r ddwy apêl annilys

·         byddai prisiad annibynnol o’r safle’n cael ei wneud er mwyn cadarnhau gwerth yr iawndal i’w dalu

·         penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio fyddai cyhoeddi’r Gorchymyn Prynu Gorfodol a byddai’n debygol o gymryd rhyw bymtheg mis i’w cwblhau

·         byddai angen ystyried bwriadau i’r safle i’r dyfodol mewn sesiwn gaeedig ond byddai unrhyw brosiect yn ceisio bod o fantais i dref Dinbych a’r sir yn gyfan.

 

Roedd atodiadau cyfrinachol yn ymwneud â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol yn cyd-fynd â’r adroddiad ac er mwyn trafod y mater hwnnw a bwriadau i’r dyfodol ar gyfer y safle - PENDERFYNWYD bod y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod am y rhesymau y byddai gwybodaeth wedi’i heithrio’n debygol o gael eu datgelu fel y diffiniwyd ym Mharagraff 14 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Trafododd y Cabinet faterion yn ymwneud â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol gan gynnwys risgiau cysylltiedig, ystyriaethau ariannol a chynlluniau i’r dyfodol. Roedd yr aelodau’n awyddus i ddiogelu’r adeilad a sicrhau bod y safle’n cael ei ddatblygu i fod o fantais i’r ardal. Wrth gydnabod yr angen am gyfrinachedd, roedd yr aelodau hefyd yn awyddus i ymdrin â’r mater mor agored â phosibl, heb niweidio sefyllfa’r Cyngor. Ar ddiwedd y drafodaeth, ailgydiodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cefnogi cyhoeddi Gorchymyn Prynu Gorfodol ar y safle ac yn argymell bod y Pwyllgor Cynllunio’n awdurdodi hynny;

 

(b)       yn cefnogi’r Swyddogion i wneud cynnig i brynu’r safle’n seiliedig ar yr ymateb gan Brisiwr Annibynnol a ffactorau materol eraill, a

 

 (c)       chyn prynu’r safle’n ffurfiol, boed trwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu drwy drafodaethau, bydd awdurdodiad pellach yn cael ei geisio gan y Cabinet.