Mater - cyfarfodydd
THE FORMER NORTH WALES HOSPITAL, DENBIGH
Cyfarfod: 30/07/2013 - Cabinet (Eitem 12)
12 CYN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH PDF 109 KB
Ystyried
adroddiad, ynghyd â’r atodiadau
cyfrinachol, gan y Cyng. David Smith, Aelod Arweiniol Parthau Cyhoeddus,
(copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet gefnogi gorchymyn prynu gorfodol a
gwneud cynnig i brynu'r safle.
Dogfennau ychwanegol:
- FORMER NW HOSPITAL DENBIGH - PART 2 APP A-C , View reasons restricted (12/2)
- FORMER NW HOSPITAL DENBIGH - PART 2 APP D , View reasons restricted (12/3)
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cefnogi
cyflwyno Gorchymyn Prynu Gorfodol ac yn argymell bod y Pwyllgor Cynllunio hefyd
yn awdurdodi hyn.
(b) yn rhoi
cefnogaeth i Swyddogion wneud cynnig i brynu’r safle yn seiliedig ar ymateb y
Prisiwr Annibynnol a ffactorau pwysig eraill.
(c) y dylid, cyn
prynu’r safle’n ffurfiol, drwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu drwy drafodaethau,
dderbyn awdurdodiad pellach gan y Cabinet.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, yr Aelod Arweiniol dros Dir y
Cyhoedd yr adroddiad gan roi diweddariad i’r aelodau ar gynnydd prosiect cyn
Ysbyty Gogledd Cymru a cheisio cefnogaeth y Cabinet i weini Gorchymyn Prynu
Gorfodol ar gyfer y safle a gwneud cynnig i’w brynu.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhywfaint o
wybodaeth gefndirol a arweiniodd at y sefyllfa bresennol ac amlinellodd y
risgiau cyffredinol oedd yn gysylltiedig â phroses y Gorchymyn Prynu Gorfodol.
O gofio cymhlethdodau’r safle, argymhellwyd petai’r Cyngor yn llwyddiannus
gyda’r Gorchymyn Prynu Gorfodol neu os byddai’r cynnig i brynu’r safle’n cael
ei dderbyn, byddai awdurdodiad pellach y Cabinet yn cael ei geisio cyn cymryd
perchnogaeth ffurfiol o’r safle.
Amlygodd yr Arweinydd gyfeiriadau’r cyfryngau at
leoliad y carchar newydd yng Ngogledd Cymru. Eglurodd fod y safle hwn a safle
Green Gate Llanelwy yn anaddas oherwydd
y maint a’r cyfyngiadau cynllunio.
Cododd yr aelodau gwestiynau mewn perthynas â’r goblygiadau ariannol a’r
bwriadau ar gyfer yr adeilad i’r dyfodol a rhoddwyd yr ymatebon canlynol -
·
byddai’r
prosiect yn arwain at ddim cost i’r awdurdod lleol na threthdalwyr y cyngor
·
roeddent
yn aros am ganlyniad y tair apêl cynllunio oedd yn weddill cyn cymryd camau i
geisio adennill taliad mewn perthynas â’r ddwy apêl annilys
·
byddai
prisiad annibynnol o’r safle’n cael ei wneud er mwyn cadarnhau gwerth yr
iawndal i’w dalu
·
penderfyniad y Pwyllgor
Cynllunio fyddai cyhoeddi’r Gorchymyn Prynu Gorfodol a byddai’n debygol o
gymryd rhyw bymtheg mis i’w cwblhau
·
byddai
angen ystyried bwriadau i’r safle i’r dyfodol mewn sesiwn gaeedig ond byddai
unrhyw brosiect yn ceisio bod o fantais i dref Dinbych a’r sir yn gyfan.
Roedd atodiadau cyfrinachol yn ymwneud â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol yn
cyd-fynd â’r adroddiad ac er mwyn trafod y mater hwnnw a bwriadau i’r dyfodol
ar gyfer y safle - PENDERFYNWYD bod y Wasg a’r Cyhoedd yn cael
eu gwahardd o’r cyfarfod am y rhesymau y byddai gwybodaeth wedi’i heithrio’n
debygol o gael eu datgelu fel y diffiniwyd ym Mharagraff 14 Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972.
Trafododd y Cabinet faterion yn ymwneud â’r
Gorchymyn Prynu Gorfodol gan gynnwys risgiau cysylltiedig, ystyriaethau
ariannol a chynlluniau i’r dyfodol. Roedd yr aelodau’n awyddus i ddiogelu’r
adeilad a sicrhau bod y safle’n cael ei ddatblygu i fod o fantais i’r ardal.
Wrth gydnabod yr angen am gyfrinachedd, roedd yr aelodau hefyd yn awyddus i
ymdrin â’r mater mor agored â phosibl, heb niweidio sefyllfa’r Cyngor. Ar
ddiwedd y drafodaeth, ailgydiodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn cefnogi cyhoeddi Gorchymyn Prynu
Gorfodol ar y safle ac yn argymell bod y Pwyllgor Cynllunio’n awdurdodi hynny;
(b) yn cefnogi’r Swyddogion i wneud cynnig i
brynu’r safle’n seiliedig ar yr ymateb gan Brisiwr Annibynnol a ffactorau
materol eraill, a
(c) chyn
prynu’r safle’n ffurfiol, boed trwy Orchymyn Prynu Gorfodol neu drwy
drafodaethau, bydd awdurdodiad pellach yn cael ei geisio gan y Cabinet.