Mater - cyfarfodydd
ESTABLISHMENT OF AN INTEGRATED FAMILY SUPPORT TEAM
Cyfarfod: 30/07/2013 - Cabinet (Eitem 8)
8 FFURFIO TÎM CEFNOGI TEULUOEDD INTEGREDIG PDF 78 KB
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gytuno i ffurfio
Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir Ddinbych.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cytuno i sefydlu Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir
Ddinbych er mwyn cyflawni e
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr adroddiad yn ceisio cytundeb y Cabinet i sefydlu
Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir Ddinbych yn unol â’r gofynion statudol.
Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd rywfaint o gefndir
i’r adroddiad a’r rhesymeg y tu cefn i’r gofyniad i sefydlu Tîm Cefnogi
Teuluoedd Integredig. Adroddodd ar y gwaith a gynhaliwyd mewn perthynas â hynny
ac ymhelaethodd ar y cynigion yng Ngogledd Cymru a Sir Ddinbych yn arbennig a
fyddai’n debygol o fod yn weithredol o 31 Rhagfyr 2013 ymlaen. Cyfeiriwyd hefyd
at fanteision y dull hwnnw ynghyd â’r trefniadau ariannu. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd David Smith, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd y byddai cyllid grant yn 2013/14 yn galluogi ar gyfer
cyflogi tri aelod arall o staff i’r tîm. Rhoddwyd sicrwydd i Lywodraeth Cymru o
2014/15 ymlaen, y byddai rhyw £136 mil yn cael ei ychwanegu at y Grant Cynnal
Refeniw ar gyfer y trefniadau Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig a fyddai’n cael
eu defnyddio i ariannu’r swyddi ychwanegol hynny.
Gofynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro/Cyfreithiwr am
fwy o eglurder yn yr argymhelliad y manylir arno yn yr adroddiad. O ganlyniad –
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn cytuno i sefydlu Tîm Cefnogi Teuluoedd Integredig yn Sir
Ddinbych yn dilyn ei ddyletswyddau dan Adran 57 Mesur Plant a Theuluoedd
(Cymru) 2010.