Mater - cyfarfodydd
ADULT SAFEGUARDING
Cyfarfod: 30/07/2013 - Cabinet (Eitem 7)
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol a
Gwasanaethau Plant, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gytuno â’r
newidiadau i drefniadau presennol diogelu oedolion.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
cynigion i newid y trefniadau cyfredol ar gyfer diogelu oedolion, yn unol â
phob partner ledled Gogledd Cymru, i’r dewis a ffafrir o Fwrdd Diogelu Oedolion
Gogledd Cymru ddwyradd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Arweiniol dros Ofal
Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr adroddiad yn rhoi manylion y cynigion ar
gyfer trefniadau Diogelu Oedolion i’r dyfodol yn unol â’r Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Lles (Cymru). Ceisiwyd cytundeb y Cabinet i newid y trefniadau
presennol i ddiogelu oedolion, yn unol â phob partner ar draws Gogledd Cymru,
i’r dewis sy’n cael ei ffafrio sef Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru â Dwy
Haen.
Wrth ystyried y cynigion, ceisiodd y Cabinet gael sicrwydd mewn
perthynas â’r trefniadau ariannu a rheoli gwendidau dynodedig, yn enwedig o ran
atebolrwydd. Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes fod disgwyl
cael cyllid cydweithredu rhanbarthol er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.
Petai’r cais am gyllid yn aflwyddiannus, byddai’r prosiect yn parhau i fynd yn
ei flaen ond byddai’n cymryd mwy o amser i roi’r cynigion ar waith. Darparwyd
sicrwydd y byddai’r trefniadau’n cael eu goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr
Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru. Byddai dogfennau’n cael eu paratoi ymlaen
llaw gan osod yn glir gyfrifoldebau’r byrddau rhanbarthol ac isranbarthol.
PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r cynigion i newid y trefniadau presennol ar gyfer Diogelu Oedolion,
yn unol â phob partner ar draws Gogledd Cymru, i’r dewis sy’n cael ei ffafrio o
Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru â Dwy Haen.