Mater - cyfarfodydd

Mater - cyfarfodydd

SPECIALIST ACCOMMODATION

Cyfarfod: 24/09/2013 - Cabinet (Eitem 7)

7 PROTOCOL TAI Â CHEFNOGAETH pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley (copi wedi’i amgáu) ar broses i alluogi i’r cyngor wneud penderfyniadau cytbwys am leoliad "tai â chefnogaeth"

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n nodi proses i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau teg a chytbwys am leoliad “tai â chefnogaeth”.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn cytuno:-

 

(a)  mabwysiadu'r protocol sydd ynghlwm wrth Atodiad 1.

(b)  bod gwaith y panel a'r gwaith o ran gweithredu’r protocol yn cael ei fonitro a’i adolygu’n flynyddol gyda chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet, a

(c)  cynnal archwiliad o leoliad a nifer y cynlluniau tal â chefnogaeth yn Sir Ddinbych.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, sy’n nodi proses i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau teg a chytbwys am leoliad “tai â chefnogaeth”.

 

Cyflwynodd a darparodd y Cynghorwyr R.L. Feeley a H.C. Irving grynodeb manwl o’r adroddiad.  Esboniwyd bod angen penderfyniad ar fabwysiadu'r protocol sydd ynghlwm yn Atodiad 1.  Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y gallai SH ddarparu cynlluniau ar gyfer ystod eang o grwpiau oedd yn cynnwys:-

 

·                     Pobl hŷn bregus

·                     Pobl gyda chyflyrau meddygol

·                     Pobl ifanc nad ydynt eto’n barod ar gyfer byw'n annibynnol

·                     Pobl sy'n ffoi rhag trais domestig

·                     Rheiny sy’n gadael sefydliadau, gan gynnwys cyn-droseddwyr, a      

·                     Rheiny gyda phroblemau sy’n ymwneud ag alcohol a chyffuriau

Mae manylion y cyrff sydd â hawl i gyflwyno cynigion ar gyfer Tai â Chefnogaeth wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad ac yn cynnwys cyrff allanol fel y Bail Accommodation and Support Service neu BIPBC.  Rhoddwyd cadarnhad y bydd tai â chefnogaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl leol ym mhob achos.  Roedd yr Aelodau yn cytuno â barn y Cynghorydd Feeley y dylid monitro ac adolygu gweithrediad y protocol a’r Panel ar ôl deuddeg mis, gyda chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet.

 

Gall ddod o hyd i leoliadau addas ar gyfer Tai â Chefnogaeth fod yn ddadleuol iawn mewn cymunedau lleol am nifer o resymau.  Gall achosi gwrthdaro, arwain at ddrwgdybiaeth o’r Cyngor ac ymddygiad sy’n gwahaniaethu, gan gynnwys yn erbyn grwpiau a ddiogelir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Pwysleisiwyd yr angen am letyau addas ar gyfer unigolion diamddiffyn yn ogystal â chanlyniadau peidio diwallu’r anghenion.

 

Cadarnhaodd y CCMLl nad oes system ffurfiol ar gyfer y Cyngor i ystyried yr holl safbwyntiau a gwneud penderfyniad rhesymegol am leoliad arfaethedig.  Mae'r protocol, Atodiad 1, wedi cael ei ddatblygu gan swyddogion ar y cyd â'r ddau Aelod Arweiniol perthnasol, cynrychiolwyr o bob un o'r grwpiau gwleidyddol a’r Cefnogwr Digartrefedd.   Mae wedi defnyddio deunydd o brotocol tebyg a ddatblygwyd yn Wigan ond mae'n seiliedig ar brofiad swyddogion ac aelodau Sir Ddinbych dros nifer o flynyddoedd a thrwy gynigion syml a hynod ddadleuol.

 

Mae'r protocol yn nodi ymagwedd ofalus er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â lleoliad arfaethedig tai â chefnogaeth.  Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys:-

 

·                     diffinio pa wybodaeth fydd yn cael ei rhannu gyda phwy ac ar ba gam.

·                     ymagwedd strwythuredig tuag at gasglu gwybodaeth am safle penodol dan sylw a'i gryfderau a’i wendidau

·                     ymagwedd strwythuredig tuag at nodi unrhyw faterion cynllunio yn gynnar

·                     dull clir i nodi “sensitifrwydd” posibl cynllun posibl er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig yn cael eu hystyried a'u trin yn deg 

·                     dulliau a argymhellir ar gyfer rhannu gwybodaeth am gynlluniau gyda'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf

·                     Sefydlu “Panel Tai â Chefnogaeth”, sy'n adrodd i'r Cabinet, a fyddai'n gwneud argymhellion ar leoliad arfaethedig ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a’r safbwyntiau

 

Mae manylion costau, y broses ymgynghori a’r risgiau a mesurau i fynd i’r afael â nhw wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  Mae copi o’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb wedi ei gynnwys fel Atodiad i’r adroddiad.

 

Roedd yr Aelodau yn cytuno â barn y Cynghorydd Feeley y dylid monitro ac adolygu gweithrediad y protocol a’r Panel ar ôl deuddeg mis, gyda chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet.

 

Esboniodd y Cynghorydd J. Butterfield bod Grŵp Ardal Aelodau y Rhyl wedi ystyried a gwrthwynebu i’r cynllun, gan fynegi’r farn bod gan breswylwyr y Rhyl ac Aelodau Etholedig ran gyfyngedig i’w chwarae wrth lunio’r cynllun a’i weithredu.  Esboniodd bod gan Ochr Orllewinol y Rhyl nifer helaeth o gynlluniau tai eisoes sy’n cynnwys nifer fawr o dai amlfeddiannaeth.  Roedd y Cynghorydd Butterfield  ...  view the full Cofnodion text for item 7