Mater - cyfarfodydd
BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET
Cyfarfod: 24/09/2013 - Cabinet (Eitem 14)
14 RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 114 KB
Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu a nodi’r cynnwys
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cyng. H. H. Evans Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’r Aelodau.
PENDERFYNIAD
– bod y Cabinet yn derbyn y Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol, yn amodol ar y newidiadau a gytunwyd arnynt.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd H.H. Evans Raglen Gwaith
i’r Dyfodol y Cabinet, a gylchredwyd â phapurau’r cyfarfod.
Cytunodd y Cabinet ag awgrym gan y Cynghorydd D. I. Smith, oherwydd
ymglymiad yr Aelod Arweiniol yn y broses Archwilio, y dylid cynnwys Rhaglenni
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgorau Archwilio fel eitem rhaglen ar gyfer
cyfarfodydd Cabinet i’r dyfodol.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol
bod yr eitem rhaglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid – cais am arian ar gyfer
Prosiectau Canol Tref y Rhyl, oedd wedi’i threfnu ar gyfer 29 Hydref, 2013,
wedi’i gohirio tan gyfarfod arall yn y dyfodol.
Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y bydd yr eitem Gaffael yn ymwneud â’r Achos
Busnes ar gyfer Gwasanaeth Sir Ddinbych a Sir y Fflint ar y cyd yn cael ei
chyflwyno i gyfarfod Tachwedd 2013, ac y bydd yr Achos Busnes amlinellol ar
gyfer y tair sir yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Rhagfyr 2013 neu fis Ionawr
2014.
PENDERFYNWYD
– Dylai’r Cabinet dderbyn y Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol ar ôl gwneud y diwygiadau y cytunwyd arnynt.
RHAN II
EITHRIO’R WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD- dan ddarpariaethau Adran 100a(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a
ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu,
fel y'i diffinnir ym mharagraffau 14 ac 15, Rhan 4, Atodlen 12a Deddf
Llywodraeth Leol 1972.